Bydd Mynediad Agored yn orfodol o eleni ymlaen i erthyglau mewn cyfnodolion ar gyfer REF, felly hoffwn atgoffa cyfranwyr a golygyddion ein cyfnodolion yn gyflym am hyn.

Y dyddiad allweddol yw 1 Ebrill 2016, oherwydd fe fydd Mynediad Agored yn amod hanfodol ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion a’u derbyniwyd i’w cyhoeddi ar ôl y dyddiad hwn.

Mae dogfen bolisi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE, sy’n cynnwys HEFCW) yn un defnyddiol iawn er mwyn cyfarwyddo eich hunain gydag anghenion y Cyngor ar gyfer Mynediad Agored. Fe’i adnewyddwyd yng Ngorffennaf 2015 ac mae ar gael ar-lein yma: http://www.hefce.ac.uk/pubs/year/2014/201407/name,86771,en.html. Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ynglŷn ag amseru adnau mewn storfeydd.

Mae anghenion Mynediad Agored gan Gynghorau Ymchwil DU (RCUK) hefyd ar gyfer erthyglau sy’n cydnabod cyllid RCUK; am fwy o fanylion, gweler http://www.rcuk.ac.uk/research/outputs/.

Gadewch i Wasg Prifysgol Cymru neu olygyddion y cyfnodolyn wybod os oes gyda chi unrhyw anghenion Mynediad Agored pan fyddwch yn cyflwyno’r deipysgrif ar gyfer cyhoeddi eich erthygl, gan nodi a yw eich angen ar gyfer Mynediad Agored Gwyrdd neu Aur.

Mynediad Agored Gwyrdd:

Polisi GPC yw gofyn am gyfnod embargo o 18 mis ar gyfer Mynediad Agored Gwyrdd, yn cychwyn o’r dydd olaf ym mis y cyhoeddiad o’r fersiwn print. Testun terfynol yr awdur wedi’i adolygu gan arbenigwr ddylai fod y fersiwn ar gyfer adnau (nid y fersiwn gyhoeddedig), a dylai fod ar gyfer pwrpasau anfasnachol yn unig. Cynhwysir deunydd trydydd parti yn yr erthygl a adneuir ar risg yr awdur/sefydliad ei hun. Dylai awduron barhau i sicrhau’r hawliau i ddefnyddio deunydd trydydd parti mewn print ac ar ffurf electronig yn y ffordd arferol cyn cyflwyno eu herthyglau i olygyddion cyfnodolion neu Wasg Prifysgol Cymru.

Mynediad Agored Aur:

Os ydych angen Mynediad Agored Aur, hynny yw Mynediad Agored yn syth ar ôl cyhoeddi, cysylltwch â ni a gallwn drafod Ffi Prosesu Erthygl (‘Article Processing Charge’) gyda chi.

Bydd GPC yn parhau i dderbyn a chyhoeddi erthyglau gan awduron nad oes ganddynt anghenion ar gyfer yr Ymarferiad Asesu Ymchwil (RAE) o dan y trefniadau sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Os oes gyda chi unrhyw anghenion neu ymholiadau Mynediad Agored, cysylltwch â Catherine Jenkins, a fydd yn hapus i’ch cynorthwyo: catherine.jenkins@press.wales.ac.uk