Mae Gwyddonwyr Cymru yn cynnig llyfrau ysgolheigaidd wedi’u hysgrifennu mewn ffordd hygyrch am wyddonwyr o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad mawr ac arwyddocaol, yn y gorffennol a’r presennol, at ddatblygiadau ac arloesedd gwyddonol. Bu tueddiad yn hanesyddol i gyfyngu’r syniad o ddiwylliant Cymreig i’r hyn a gynhyrchwyd gan ei hawduron, ei beirdd, ei cherddorion a’i diwinyddion; bydd y gyfres hon yn mynd i’r afael â’r dybiaeth honno ac yn dangos cyfraniad hynod arwyddocaol ei gwyddonwyr ar raddfa fyd-eang. Mae awduron y cyfrolau bywgraffyddol hyn yn arbenigwyr ar eu pwnc, a chyflwynir y gwaith mewn ffordd sy’n fywiog ac yn hygyrch, gan edrych ar y bobl y tu ôl i’r wyddoniaeth, gyda’r y cynnwys gwyddonol yn cael ei esbonio’n eglur i ddarllenwyr sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth am wyddoniaeth.
Os hoffech archebu unrhyw un o’r llyfrau, dilynwch y dolenni isod.
Evan James Williams: Ffisegydd yr Atom, gan Rowland Wynne (Clawr Meddal, eLyfr)
Dyma gyfrol sy’n rhoi darlun o fywyd a gwaith y ffisegydd o Gymro, yr Athro Evan James Williams, gŵr a gafodd ei ddisgrifio fel un o’r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed ac fe’i cydnabyddid fel arbrofwr dyfeisgar a damcaniaethwr disglair. Cymerodd ran flaenllaw yn y chwyldro a ddigwyddodd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda datblygiad ffiseg cwantwm. Cydweithiodd gyda’r arloeswyr (nifer ohonynt yn enillwyr gwobr Nobel) a gwnaeth gyfraniad nodedig ym maes gwrthdrawiadau atomig ac yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd. Ym 1939, ymunodd yn y dasg o ddiddymu bygythiad dinistriol llongau tanfor a chyflawnodd waith gorchestol. Amlygir ei alluoedd di-gymar yn y gyfrol hon, a chyflwynir yn ogystal ddarlun o gymeriad hoffus a thwymgalon na gollodd ei ymlyniad na’i gariad tuag at fro ei febyd a’i diwylliant.
William Robert Grove: Victorian Gentleman of Science, gan Iwan Rhys Morus (Clawr Caled, Clawr Meddal, eLyfr)
Mae’r llyfr hwn yn rhoi bywgraffiad hygyrch ac awdurdodol o’r gwyddonydd Cymreig amryddawn, William Robert Grove. Roedd Grove yn ffigwr pwysig a dylanwadol iawn yng ngwyddoniaeth Oes Fictoria. Rhychwantodd ei yrfa fel gwyddonydd a bargyfreithiwr blaenllaw y cyfnod hwn, a chawareodd rôl hanfodol hefyd yn y mudiad i ddiwygio’r Gymdeithas Frenhinol. Mae’r bywgraffiad hwn yn gosod gyrfa a chyfraniadau Grove yn eu cyd-destun, gan dalu sylw yn arbennig i rôl bwysig diwylliant diwydiannol Cymreig mewn ffurfio ei safbwynt gwyddonol. Newidiodd lle gwyddoniaeth mewn diwylliant yn radical yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chwaraeodd Grove ei hun ran allweddol yn rhai o’r trawsffurfiadau hyn. Gall edrych ar ei fywyd gwyddonol, serch hynny, wneud mwy na amlygu gyrfa wyddonol unigol – gall gynnig ffordd o ennill mewnwelediadau newydd i’r newidiadau ym myd gwyddoniaeth Fictoraidd. .
Robert Recorde: Tudor Scholar and Mathematician, gan Gordon Roberts (Clawr Caled, Clawr Meddal, eLyfr)
Cymro oedd Robert Recorde a anwyd yn Ninbych-y-pysgod oddeutu 1512, a chafodd ei addysg yn Rhydychen a Chaergrawnt. Mae’r llyfr hwn, sy’n fywgraffiad manwl o’r ysgolhaig Tuduraidd, yn bwrw golwg ar agweddau niferus ar ei yrfa ryfeddol o amrywiol a’i fywyd, oedd yn un trasig yn y pen draw. Mae’n cyflwyno darlun cyfoethog, manwl a chyflawn o Robert Recorde y dyn, y diwinydd a’r academydd prifysgol, y meddyg, y mathemategydd a’r seryddwr, yr hynafiaethydd, ac awdur gwerslyfrau hynod lwyddiannus. Arweiniodd penodiadau gan y goron at wrthdaro rhwng Recorde ag Iarll Penfro, cynllwyniwr o fri, gan arwain maes o law at ddod benben â’r Frenhines Mari I. Fel gŵr deallusol oedd ar goll yn llwyr ym myd cynllwynio gwleidyddol, ac at ei glustiau mewn cythrwfl crefyddol, yn y pen draw ildiodd Recorde i’r we o beryglon a gaeodd amdano nad oedd dianc rhagddi.
Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Gareth Ffowc Roberts, Prifysgol Bangor; Yr Athro John V. Tucker, Prifysgol Abertawe; Yr Athro Iwan Rhys Morus, Prifysgol Aberystwyth