Des i’r swydd o’r gwasanaeth sifil yn newydd i’r byd cyhoeddi, ond gyda graddau mewn llenyddiaeth Gymraeg a chariad at lyfrau. Roeddwn yn ffodus i etifeddu tîm bychan ond brwd o gydweithwyr oedd eisoes yn hyddysg yn y maes ac a allai fy nghyflwyno i ddirgeleddau argraffu a chyhoeddi.

Mae pob Cyfarwyddwr yn etifeddu prosiectau gan ei ragflaenwyr. Un o’r rhain oedd cyhoeddi llyfrau diwinyddol sylweddol gan yr Athro Aubrey Johnson, Gweinidog gyda’r Bedyddwyr yng Nghroes-y-Parc ym Mro Morgannwg, ac Athro Ieithoedd Semitaidd yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Cyfrolau swmpus oedd y rhain, gyda chynulleidfa arbenigol, a’r unig ffordd y gallai’r Wasg eu cyhoeddi oedd i’r Athro Johnson ei hun dalu am gostau’r argraffu – y math o ‘hunan-gyhoeddi’ a ddaeth yn llawer mwy cyffredin ers hynny. Cyhoeddwyd yr olaf o’r rhain – clamp o gyfrol 467 tudalen yn dwyn yr enw The Cultic Prophet and Israel’s Psalmody – yn 1979. Bryd hynny, roedd teipysgrif terfynol unrhyw gyfrol yn werthfawr iawn, gan na fyddai copi glân arall ar gael. Cyrhaeddodd yr Athro Johnson swyddfa’r Wasg yn Stryd Gwennyth yn Cathays ar ddiwrnod gwyntog yn 1978, yn cario’r teipysgrif mewn bocs. Yn anffodus, chwythodd clawr y bocs ymaith a dechreuodd y tudalennau hedfan ar draws y stryd, gyda’r Athro druan yn eu hymlid orau y gallai. Fe lwyddodd i’w hachub a chyrraedd y swyddfa yn ddiogel, lle gallwn ei gyfarch trwy ddyfynnu Salm 126 yn y Saesneg, “”Well, Aubrey, here you are bringing your sheaves with you” (Salm 126.6, AV). Roeddwn yn falch o weld ar wefan y Wasg fod y gyfrol o hyd mewn print ac ar gael gan y Wasg, felly bu’n werth achub y dalennau! Roedd hyrwyddo cyhoeddi yn y modd hwn, yn y dyddiau cyn y rhyngrwyd, yn wasanaeth pwysig gan y Wasg i ysgolheictod, gan alluogi cyhoeddi gwaith na fyddai fel arall wedi gweld golau dydd.

Etifeddais hefyd ymrwymiad i gyhoeddi Geiriadur Lladin-Cymraeg gan Huw Thomas. Yn yr achos hwn – oherwydd y cylchrediad bychan a ddisgwylid – tynnwyd llun y teipysgrif terfynol a’i argraffu a’i rwymo yn gyfrol yn ôl y gofyn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceidwad y teipysgrif hwn oedd fy mab, Gethin, gan fod Mr Thomas yn athro Lladin arno ar y pryd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, a bu raid iddo gario amryfal ddrafftiau’r teipysgrif yn ôl ac ymlaen o’r ysgol, wrth eu trosglwyddo rhwng yr awdur, y Wasg a’r deipyddes. Dim ond yn ddiweddar y darganfûm i Gethin ar ddamwain adael y teipysgrif olaf un, yn cynnwys cywiriadau munud olaf Mr Thomas, yn ystafell gotiau’r ysgol un noswaith yn 1978. Bu raid iddo ffonio’r ysgol a gofyn i’r Prifathro, Ifan Wyn Williams, eu hachub. Y tro hwn hefyd, bu diwedd hapus i’r hanes ac fe gyhoeddwyd y Geiriadur yn 1979. Mae hwnnw hefyd ar gael o hyd gan y Wasg, ac yn fargen am £7.95.

Yn ogystal ag etifeddu gwaith, mae pob Cyfarwyddwr yn wynebu newid mewn amgylchiadau sy’n golygu edrych i gyfeiriadau newydd. Roedd y sefyllfa economaidd yn ddigon anodd eisoes pan gychwynnais ar y gwaith, ond wedi dyfodiad Syr Keith Joseph yn Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn 1981, fe gychwynnodd gyfnod o doriadau yng ngwariant pob prifysgol, a’r toriadau llymaf ym meysydd y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, prif feysydd cyhoeddi Gwasg Prifysgol Cymru. A’r holl deulu yn rhan o fyd addysg, roedd enw Syr Keith yn faw yn ein tŷ ni! Roedd amddiffyn cyllideb y Wasg wrth i Brifysgol Cymru chwilio am ffyrdd i gadw’r ddysgl ariannol yn wastad, ar y naill law, a cheisio ffynonellau newydd o incwm iddi, ar y llall, yn dasg barhaus.

Un cam a gymerwyd i’r cyfeiriad hwnnw, gyda chymorth ein Swyddog Marchnata gweithgar Richard Houdmont, oedd cyhoeddi llyfrau clawr papur Saesneg y gellid eu marchnata yn fwy eang na’r cyfrolau academaidd traddodiadol, dan imprint GPC Books. Ysbrydolwyd y rhain gan gyfresi megis ‘Past Masters’ gan Wasg Prifysgol Rhydychen, oedd yn gyflwyniadau o ryw 100 tudalen i athronwyr enwog gan arbenigwyr academaidd. Gwyddem fod y llyfrau hyn yn gwerthu’n dda i fyfyrwyr prifysgol a Lefel A ac i ddarllenwyr cyffredinol. Wedi pendroni am faes addas, fe ddechreusom gyhoeddi ‘Political Portraits’ dan olygyddiaeth yr Athro Kenneth O. Morgan. Roedd y cyfrolau ychydig yn fwy o ran maint a hyd na ‘Past Masters’, ond yr un oedd y syniad, sef cyflwyno’r gwrthrych yn gryno i’r darllenydd. Wrth reswm, yr Athro Morgan ei hun ysgrifennodd gyfrol am Lloyd George, a dros y blynyddoedd fe ychwanegwyd cyfrolau am lawer o Brif Weinidogion Prydain o’r 19eg a’r 20fed ganrif, gwleidyddion Cymreig megis Aneurin Bevan, ac ambell wladweinydd nodedig arall, megis cyfrol Owen Dudley Edwards am Eamon de Valera. Da gweld fod tipyn o fynd ar y cyfrolau hyn o hyd yn y farchnad ail law.

Fel pob Cyfarwyddwr yn ei dro fe gefais y fraint o weld cyhoeddi Geiriadur Prifysgol Cymru fesul rhan ar ran y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Etifeddais rywfaint o oedi gyda’r cyhoeddi, gyda’r Geiriadur yn stond ar y gair ‘haint’ nes, rhyw ddwy flynedd a hanner i mewn i ‘nhymor fe lwyddwyd cyhoeddi rhan 28 yn Ionawr 1979 (yn dechrau gyda ‘hair’). Gyda dyfodiad dulliau newydd o argraffu oedd yn cyflymu’r broses, fe welais gyhoeddi wedyn hyd at ran 41, yn mynd â’r geiriau hyd at ‘Obo’, cyn ymddeol yn 1990. Roedd yn fraint arbennig fod ynglŷn â chyhoeddi’r ail gyfrol lawn (g – llyys) yn 1987. Roedd cyhoeddi’r darnau clawr papur fesul tipyn yn rhan eitha pwysig o’r diwylliant Cymraeg, gyda chryn gyffro mewn cylchoedd llengar wrth i bob rhan gael ei chyhoeddi a’i danfon at y tanysgrifwyr, a hyd yn oed adolygiadau yn y wasg. Yn syth ar ôl ymddeol fe wirfoddolais i fynd i Aberystwyth am gyfnod a helpu gyda’r slipiau, ac efallai cyflymu’r cyhoeddi ryw ychydig! Diolch bod y we wedi hwyluso cyhoeddi’r Geiriadur cryn dipyn erbyn hyn.

Fe fu’r 14 blynedd wrth y llyw yn gyfnod hapus a hoffwn ddiolch i fy holl gydweithwyr ar y pryd am eu hynawsedd a’u parodrwydd i ysgwyddo amrywiaeth eang o gyfrifoldebau. Dymunaf yn dda i’r Wasg am ei chanrif nesaf!

John Rhys
Caerdydd, Ebrill 2022