Cyfres yw hon sy’n cynnig golwg annisgwyl a dadlennol ar rai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt; o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, ac o iaith i grefydd.

Pam Na Fu Cymru

Pam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg

Awdur: Simon Brooks

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Oes Cenedlaetholdeb, llwyddodd y rhan fwyaf o wledydd bychain Ewrop i feithrin mudiadau cenedlaethol llwyddiannus a fynnai warchod eu hieithoedd. Un o gwestiynau mawr hanes Cymru yw pam na ddigwyddodd hyn yn y wlad hon.

Pwyslais gwlatgarwyr Cymreig ar ryddfrydiaeth a radicaliaeth sy’n gyfrifol am y diffyg. Mae rhyddfrydiaeth yn hyrwyddo hunaniaethau mwyafrifol, ac mae’n rhan ganolog yng Nghymru o hegemoni Prydeindod. Roedd Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fwy rhyddfrydol nag odid yr un wlad arall yn Ewrop. Yn groes i’r dybiaeth gyffredin mai peth llesol oedd hyn i genedlaetholdeb Cymreig, dangosir yn Pam Na Fu Cymru mai hyn oedd yr union reswm am ei fethiant.

‘Boed i lyfr arloesol Simon Brooks ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr i faes cwbl ganolog yn ein hanes.’ – Athro Emeritws Robin Okey, O’r Pedwar Gwynt, Nadolig 2016

 

‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’ 

‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’: Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth

Awdur: Richard Wyn Jones

Ers degawdau clywyd cyhuddiadau cyson o du Cymry uchel eu parch fod cenedlaetholwyr Cymreig wedi cydymdeimlo â Ffasgaeth yn ystod dyddiau duon y 1930au a’r Ail Ryfel Byd – cyhuddiad a fyddai’n pardduo enw unrhyw elyn gwleidyddol. Yn y gyfrol arloesol hon, mae sylwebydd gwleidyddol amlycaf Cymru yn pwyso a mesur gwirionedd y cyhuddiadau. Yn ogystal â bwrw goleuni newydd ar agweddau Plaid Cymru a’i harweinwyr yn ystod y cyfnod hanesyddol dan sylw, mae’r llyfr yn cyflwyno trafodaeth heriol ar natur diwylliant gwleidyddol y Gymru gyfoes.

“Dehongliad treiddgar a thrylwyr mewn arddull afaelgar a chyhyrog o destun sydd wedi corddi a chythruddo gwleidydiaeth Cymru am ddegawdau” Guto Harri, Gyfarwyddwr Cyfathrebu News International, cyn Gohebydd gwleidyddol gyda’r BBC

“Campwaith o gyfrol sy’n claddu am byth un o gelwyddau mwyaf dinistriol y ddisgwrs wleidyddol Gymreig” Adam Price, cyn aelod Plaid Cymru, ymgynhorwr i Leanne Wood