Gan Lisa Lewis, awdur Performing Wales: People, Memory and Place.
Beth mae trafod diwylliant yn nhermau perfformiad yn ei gynnig i ni? Sut mae’r fath ddadansoddiad yn ein helpu i ddeall a chyfryngu’r profiad o ddiwylliant cyfrwng Cymraeg?
Yn Performing Wales: People, Memory and Place ceir trafodaeth ar bedair agwedd ar ymarfer diwylliannol – yn yr Amgueddfa, trwy gyfrwng Treftadaeth, mewn Gŵyl a thrwy Theatr – trafodaeth sy’n dadansoddi‘r agweddau hyn yn nhermau perfformiad. Gall dealltwriaeth o’r modd y ffurfir perfformiadau diwylliannol o’r fath fod yn ddefnyddiol er mwyn lleisio hunaniaethau o berspectif a ddiffinnir yn aml fel un ‘ymylol’ (mewn perthynas â hegemoni’r ‘canol’). Bwriad y llyfr hwn yw dehongli’r cyfryw berfformiadau fel rhai allweddol i’n diwylliant, sydd o bosibl yn ymateb ac yn ymestyn y tu hwnt i’w safle, ond sydd hefyd yn cyfryngu syniadau canolog ynglŷn â phwy ydym fel Cymry Cymraeg o ganol ein profiad ninnau fel safle ddiffiniadol.
Dewisiais drafod hyn yn Saesneg yn y llyfr fel bod modd cyfryngu’r drafodaeth hon gyda chynulleidfa ehangach. Hyd yn oed oddi mewn i Gymru, mae’r byd uniaith Saesneg yn aml yn anghofio bodolaeth y Gymraeg oddi mewn i ddisgẃrs ddiwylliannol ynglŷn â diwylliant Cymreig. Yr hyn all ddigwydd wrth drafod natur y profiad cyfrwng Cymraeg o ddiwylliant trwy gyfrwng iaith arall yw bod telerau’r profiad sy’n ddealladwy i Gymry Cymraeg (er mor amrywiol yw hwnnw) yn newid. Try’r awydd i amlygu profiad goblygedig yn broses o ddadelfennu haenau o brofiad a gymerir yn ganiataol fel rhan annatod o ddiwylliant ‘cynhenid’. Y gobaith o hyd yw na fydd y profiad yn cael ei leihau wrth ei rannu.
Ond mae hon yn drafodaeth sy’n dadansoddi diwylliant yn nhermau perfformiad. A pheth digon gwydn yw perfformiad yn ei hanfod, er waethaf ei fyrhoedledd a’i natur dros dro – mae bron pob amlygiad ohono yn ddigwyddiad torfol, cymdeithasol sy’n clymu pobl ynghyd. A gwneir hynny drosodd a thro, yn batrwm parhaus o greu a chynnal diwylliant mewn ffyrdd newydd. Mae’r modd y gwneir hyn trwy gyfrwng perfformiad yn amlygu pethau penodol iawn am y ffyrdd yr ydym yn diffinio lle (yn lleol ac yn nhermau Cenedl), yn cofio am ein hanes, ac yn mynegi pwy ydym fel Cymry.
Mae Lisa Lewis yn Ddarllenydd mewn Astudiaethau Theatr a Pherfformio ac yn Bennaeth yr Adran Ddrama yn yr Atrium, Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, Prifysgol De Cymru.