• Erthygl i’r Western Mail am y newidiadau cyflym mewn technolegau digidol, a’r penderfyniadau a’r prosesau sy’n rhan o’r gwaith o ddigido ôl-gatalog helaeth y Wasg.

Mae’r newidiadau cyflym mewn technolegau digidol wedi cyflwyno llawn cymaint o gyfleoedd ag o heriau i gyhoeddwyr, a dyw Gwasg Prifysgol Cymru ddim yn eithriad. Ers peth amser rydym ni wedi bod yn cyhoeddi llyfrau print ac e-lyfrau ar yr un pryd ar gyfer y mwyafrif o’n teitlau, ond ceir ôl-gatalog helaeth o hyd o lyfrau nad ydyn nhw ar gael ar hyn o bryd mewn fformat digidol. Dyw hyn ddim yn syndod o ystyried ein bod wedi bod yn cyhoeddi llyfrau ers 1922.

Wrth benderfynu beth i’w ddigido o’n hôl-restr, rydym ni’n ystyried nifer o ffactorau, ond mae gofynion y farchnad yn amlwg yn bwysig iawn. Roeddem ni felly’n croesawu adborth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, aeth ati mewn ymgynghoriad â darlithwyr sy’n addysgu amrywiaeth o bynciau ar lefel Prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg, i ddarparu rhestr o lyfrau i’w digido. Cyhoeddwyd y llyfrau hyn yn wreiddiol gan y Wasg ond erbyn hyn naill ai does dim stoc ar ôl neu mae’n anodd cael gafael arnyn nhw; doedden nhw ddim erioed wedi bod ar gael yn ddigidol, ond eto roedden nhw’n gyfrolau hanfodol neu bwysig ar nifer o gyrsiau. Gan fod llyfrau Cymraeg yn ganolog i’n cenhadaeth, doedd hi ddim yn anodd penderfynu mynd ati i adfywio dros hanner cant o gyfrolau drwy eu digido. Yn fuan iawn bydd y rhain ar gael i’w defnyddio ar dabledi, cyfrifiaduron neu drwy lyfrgelloedd. Rydym ni wrth ein bodd ein bod yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol a diriaethol i waith cyffredinol y Coleg, a gyda hynny mewn golwg, bydd yr elyfrau hyn yn fforddiadwy, ar bris o lai na £10.

Er nad yw’r broses ynddi ei hun yn gymhleth, nid mater o redeg y testun drwy raglen gyfrifiadurol yn unig yw digido llyfrau, o leiaf pan fydd ansawdd a safonau’n ystyriaeth ganolog. Dim ond mewn fformat print mae’r mwyafrif o’r llyfrau ar restr y Coleg wedi bodoli erioed, sy’n golygu y gallai fod angen eu haildeipio i’w trosi’n elyfrau, sydd yn ei dro’n golygu y byddai angen eu prawf ddarllen i ymdopi â’r gwallau dynol anochel a allai ddigwydd wrth aildeipio. Problem bosibl arall yw’r setiau nodau penodol mewn Cymraeg Canol a all beri trafferth i rai systemau digido. O ystyried y dylai sillafu ac iaith gywir fod yn ganolog i unrhyw gyhoeddiad academaidd, rhaid bod yn hynod o ofalus wrth greu cyfrol ddigidol i sicrhau y bydd yr un mor deilwng o’r Wasg â’r argraffiad print gwreiddiol.

Wrth gwrs mae’n wir fod llawer o fyfyrwyr yn dal i ffafrio llyfrau print, ond efallai nad yw’r galw yn y farchnad yn ddigonol i gyfiawnhau rhediad print newydd, a dyma lle mae technoleg ddigidol yn werthfawr i sicrhau bod y gyfrol yn dal i fod ar gael. Wrth lwc heddiw mae ‘argraffu ar alw’ yn cynnig datrysiad hawdd ac rydym ni’n bwriadu cynnig y dewis hwnnw ochr yn ochr â’r cyfrolau digidol newydd. Mae ‘argraffu ar alw’ yn cynnig hyblygrwydd i ddarllenwyr brynu eu dewis fformat ac yn golygu nad oes rhaid i’r cyhoeddwr glymu adnoddau gwerthfawr mewn rhediadau print mawr neu araf. Mae pob un o’n teitlau ar gael mewn nifer o siopau llyfrau a gan werthwyr ar-lein, gan gynnwys ein gwefan ni www.uwp.co.uk/cy/

 

Helgard Krause Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn y Western Mail ddydd Iau 26 Mawrth 2015