Gareth Ffowc Roberts yn cyflwyno ei lyfr newydd Cyfri’n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg.
Sut mae diffinio ein diwylliant fel Cymry? Ai fel gwlad y gân yn unig? Un o amcanion y gyfrol hon yw ehangu ein diffiniad i gwmpasu’r gwyddorau yn gyffredinol, a mathemateg yn benodol. Sawl canwr Cymraeg neu Gymreig fedrwch chi eu henwi? Sawl mathemategydd Cymraeg neu Gymreig fedrwch chi eu henwi? Os ydym o ddifrif yn ein hawydd i gynnwys y gwyddorau dan ymbarél ein Cymreictod, rhaid dod i adnabod y rhai sydd, dros yr oesoedd, wedi gwneud eu marc yn y meysydd hynny.
Mae’n debyg mai’r mathemategydd enwocaf ohonynt i gyd oedd Robert Recorde (1512?–1558) o Ddinbych-y-pysgod, un a oedd â’i fryd ar gyflwyno syniadau mathemategol mewn rhifyddeg, geometreg ac algebra i bobl gyffredin, yr ‘vnlearned sorte’ yn ei eiriau ei hun, y rhai nad oeddynt wedi cael eu trwytho yn y Clasuron. Aeth ati i ysgrifennu’r llyfrau cyntaf erioed yn Saesneg ar gyfer y werin bobl hyn, ac i gychwyn proses o ddemocrateiddio dysg. Mae Recorde hefyd yn enwog am gyflwyno’r hafalnod ‘=’ i’r byd, ond roedd ei gyfraniad llawnach yn anhraethol fwy na hynny.
Roedd Recorde hefyd â’i fryd ar gynorthwyo dysgwyr i ddeall syniadau mathemategol, nid dim ond eu derbyn yn ddifeddwl a’u hailadrodd yn ddiddeall. Ef oedd yr ‘athro mathemateg’ cyntaf ym Mhrydain. Roedd dylanwad gwaith Recorde yn gryf ar fy llyfr Mae Pawb yn Cyfrif (Llandysul, 2012) ac roedd yn naturiol imi geisio dilyn hynny gyda llyfr arall sy’n cadw at yr un nod o fod o fewn cyrraedd rhai nad ydynt yn cynhesu’n naturiol at fathemateg, am ba reswm bynnag. Gwneir hynny wrth roi cip ar fywyd a gwaith detholiad o fathemategwyr cig a gwaed – rhai wedi’u geni yng Nghymru, a rhai â chysylltiadau cryf â Chymru.
Cyd-ddigwyddiad hapus yw bod y llyfr yn gyfraniad at gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno cwricwlwm newydd, a bod canllawiau’r llywodraeth yn pwysleisio bod gan Gymru hanes balch o gynhyrchu mathemategwyr nodedig, ac yn annog ysgolion i fanteisio ar bob cyfle i dynnu sylw at eu llwyddiannau.
Mae Gareth Ffowc Roberts yn Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n ddiflino yn ei frwdfrydedd dros gynnwys mathemateg fel rhan naturiol o’n diwylliant fel Cymry.