Dros y deunaw mis nesaf bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi fersiynau digidol o rai o’i chlasuron a restrwyd gan ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel gweithiau sydd o ddefnydd arbennig ar gyfer dysgu myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ystod eang o bynciau – yn cynnwys Athroniaeth, Hanes, Y Gyfraith a Gwyddoniaeth. Bwriad y Wasg yw cyhoeddi’r gweithiau a restrwyd mewn fformat electronig am bris rhesymol i’w rhoi o fewn gafael myfyrwyr i’w prynu a’u defnyddio.

Mae’r llyfrau ar y rhestr yn cynnwys rhai o weithiau ysgolheigaidd Cymraeg mwyaf arloesol a meistrolgar yr ugeinfed ganrif – cyfieithiadau Emrys Evans o weithiau Platon; cyfrolau R. T. Jenkins ar hanes Cymru yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg; gweithiau Henry Lewis ac Arwyn Watkins ar ieithyddiaeth; ac arweinlyfrau R. I. Aaron a D. James Jones i hanes athroniaeth y cyfnod Groegaidd a’r cyfnod modern, o Socrates i Hegel. Mae’r teitlau hyn yn rhan o’r cyfoeth o gyfrolau ysgolheigaidd Cymraeg a gyhoeddwyd ers cychwyn Gwasg Prifysgol Cymru ym 1922, a bydd eu digideiddio yn eu rhoi o fewn cyrraedd cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr a myfyrwyr.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Wasg, Helgard Krause:

“Mae cyhoeddiadau yn yr iaith Gymraeg wedi bod o’r pwysigrwydd mwyaf i Wasg Prifysgol Cymru ers ei dechreuad yn y 1920au, ac rwy’n hynod o falch ein bod yn gallu gwneud defnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf i ail-gyhoeddi’r llyfrau hyn”.

Bydd y llyfrau ar gael i’w prynu trwy wefan Gwasg Prifysgol Cymru.

Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn gwneud pob ymgais i sicrhau bod awduron neu ystadau awduron y gweithiau sy’n cael eu digideiddio yn derbyn breindaliadau ar unrhyw werthiant o’r fersiynau digidol newydd o’u llyfrau. Cyhoeddwyd amryw o’r llyfrau cyn yr Ail Ryfel Byd mewn cyfnod pan nad oedd cytundebau ffurfiol ysgrifenedig rhwng awduron a chyhoeddwyr yn bodoli ym mhob achos.

Os ydych yn ysgutor ar gyfer ystâd unrhyw un o’r awduron ar y rhestr ganlynol, also available on the University of Wales Website, cysylltwch â Llion Wigley, Golygydd Comisiynu Gwasg Prifysgol Cymru, (Llion.Wigley@gwasg.cymru.ac.uk neu 02920 557445) er mwyn sicrhau talu breindaliadau i’r person cywir.

Gwaith Tudur Aled (gol.) T. Gwynn Jones

Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif gan R. T. Jenkins

Geirfa  Barddoniaeth Gynnar Gymraeg, 2 gyfrol gan J. Lloyd-Jones

Hanes Athroniaeth o Descartes i Hegel gan R. I. Aaron

Y Groegiaid Gynt (Cyfres y Brifysgol a’r Werin Rhif 11) gan T. Hudson-Williams

Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg gan R. T. Jenkins

Platon – Amddiffyniad Socrates (cyf.) D. Emrys Evans

Elfennau Cemeg gan R. O. Davies

Gerallt Gymro: Hanes y Daith trwy Gymru, Disgrifiad o Gymru (cyf.) Thomas Jones

Platon – Phaedon (cyf.) D. Emrys Evans

Hanes Athroniaeth, y Cyfnod Groegaidd (Cyfres y Brifysgol a’r werin Rhif 19) gan D. James Jones

Platon – Ewthyffron-Criton (cyf.) D. Emrys Evans

Y Wladwriaeth a’i Hawdurdod (Cyfres y Brifysgol a’r werin Rhif 20) gan Hywel D. Lewis a J. Alun Thomas

Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg gan Henry Lewis

Platon – Gorgias (cyf.) D. Emrys Evans

Breudwyt Ronabwy: Allan o’r Llyfr Coch o Hergest (gol.) Melville Richards

Baledi Morgannwg gan Ben Bowen Thomas

Plato(n): Y Wladwriaeth (cyf.) D. Emrys Evans

Ieithyddiaeth: Agweddau ar Astudio Iaith gan T. Arwyn Watkins

Gweithiau William Williams, Pantycelyn. Cyfrol II gan Garfield Hughes

Crefyddau’r Dwyrain gan Cyril H. Williams

Meistri’r Canrifoedd (gol.) R. Geraint Gruffydd

The Linguistic Geography of Wales: A Contribution to Welsh Dialectology gan Alan R. Thomas

Y Traddodiad Barddol gan Gwyn Thomas

Historia Gruffud vab Kenan (gol.) D. Simon Evans

Aristoteles: Barddoneg (cyf.) J. Gwyn Griffiths

Ysgrifau Athronyddol ar Grefydd (Cyfres Beibl a Chrefydd 5) (gol.) J.I. Daniel a John Fitzgerald

Datblygiad yr Iaith Gymraeg gan Henry Lewis

Y Meddwl Cyfoes (gol.) Meredydd Evans

Cyflwyniad i Astudio’r Iaith Gymraeg gan David Thorne

Llywelyn ap Gruffudd Tywysog Cymru gan J. Beverley Smith

Cyfres Beirdd y Tywysogion (gol. cyffredinol) R. Geraint Gruffydd

Cerddi Saunders Lewis (gol.) R. Geraint Gruffydd

Crefft y Cyfarwydd: Astudiaeth o Dechnegau Naratif yn Y Mabinogion gan Sioned Davies

Y Meddwl Cymreig gan W. J. Rees

Beirdd a Thywysogion. Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban gan Morfudd E. Owen a Brynley F. Roberts

Tir Neb: Rhyddiaeth Gymraeg a’r Rhyfel Byd Cyntaf gan Gerwyn Wiliams

Yr Arglwydd Rhys gan Nerys Ann Jones a Huw Pryce

Dramâu Saunders Lewis: Y Casgliad Cyflawn [Cyfrol 1 a 2] (gol.) Ioan M. Williams

Wallace: Gwyddonydd Anwyddonol gan Elwyn Hughes

Aristoteles: Moeseg Nicomachaidd (cyf.) John Fitzgerald

Ysbryd y Cwlwm: Delwedd y Genedl yn ein Llenyddiaeth gan R. M. Jones

Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd Dywysog gan Nerys Ann Jones