Huw L. Williams yn cyflwyno ei lyfr newydd Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig.

Man cychwyn y llyfr hwn oedd cyfweliad ar gyfer swydd darlithydd Athroniaeth gyda’r Coleg Cymraeg, dros wyth mlynedd yn ôl. Gwyddwn ddigon bryd hynny i sylweddoli y byddai yna bosibiliadau difyr wrth ymgymryd ag athroniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal a gwneud hynny o safbwynt trwyadl Cymreig. Yn wir, fel rhan o’m cyfweliad, bu trafod ar fodiwl posib a fyddai’n edrych ar unigolion o bwys yng nghyd-destun hanes Cymru, ac i wneud hynny o safbwynt syniadaeth.  Dyma a fyddai’n sylfaen maes o law ar gyfer fy llyfr cyntaf gyda’r wasg, sef Credoau’r Cymry.  Trwy’r broses o addysgu’r modiwl, ac yna ysgrifennu’r llyfr, mi ddes i sylweddoli arwyddocâd a phosibiliadau ehangach yr orchwyl.  

Awgrymodd Credoau’r Cymry amlinelliad o hanes deallusol cydlynnol, a dyna’r wyf yn ei ddatblygu yn y llyfr newydd – o’r oes cyn-Rufeinig a oedd yn gefnlen i oes Pelagus (un o’r ddau ‘Morgan’ yn yr hanes) hyd at heddiw. Wrth fynd ati i ysgrifennu, sylweddolais na fu hanes deallusol o’r fath erioed yn rhan sylweddol o’r traddodiad Cymreig mewn ffordd drwyadl ac hunan-ymwybodol, er gwaethaf ein hunan-ymwybyddiaeth fel cenedl ar wahân, gyda phrif-ffrwd diwylliannol radical a blaengar. 

Mae hyn yn agor hyn cil y drws ar gwestiynau dyrys ac anodd sydd, o anghenraid, yn amlygu agweddau ar ein gwendidau hanesyddol. Symptom yw hyn, yn fy marn i, nid yn unig o ddiffyg statws i ffurfiau Cymreig o feddylu ac athronyddu (y byddai rhai’n cwestiynnu a ydynt yn gymwys ar gyfer athroniaeth), ond hefyd o’r diffyg ehangach o gadarnle ym myd addysg uwch i astudio’r byd yn ei amryw ffurfiau o safbwynt Cymreig a Chymraeg. Gwn fod cyfeirio at gyflwr ôl-drefedigaethol Cymru yn creu tipyn o anniddigrwydd ymhlith rhai ond, ar wastadedd deallusol, anodd ydyw imi beidio â bwrw golwg ar gyflwr ein prifysgolion a theimlo fod yno un lens sy’n un addas i’w defnyddio. 

A dyma gysylltu gyda’r themâu nad oeddent gymaint ar flaen fy meddyliau wrth ymhel â’r ymchwil yn y cyfnod cynnar – ond sydd erbyn hyn yn anhepgorol o ran argyfwng cyfalafiaeth ddiweddar a Covid.

Mae’r apêl i adfer y meddwl Cymreig yn alwad i gydnabod datgymalu cynyddol ein cymunedau, ein hiaith a’n ffordd o fyw, ac i ddwysystyried y ffordd ymlaen yng ngoleuni’r tuedd hwnnw. Heb annibyniaeth barn, heb yr ewyllys i brofi ein personoliaeth hanesyddol, diwylliannol a ieithyddol unigryw, ac heb sylweddoliad fod angen troi cefn ar gyfalafiaeth i wireddu Cymru ystyrlon, yna bydd hi’n amhosib gwarchod ein hetifeddiaeth a’n hysbryd yn wyneb yr heriau lu nad oes modd gochel rhagddynt bellach. 

Mae Huw L. Williams yn ddarlithydd uwch mewn Athroniaeth, ac yn ddarlithydd cysylltiol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei ddiddordebau pennaf yw athroniaeth gwleidyddol a hanes meddwl gwleidyddol, ac mae’n cyfrannu’n gyson i drafodaethau cyhoeddus gan gynnwys y golofn ‘Socrates ar y Stryd’ i’r cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt. Ef yw Deon y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.