Gwasg Prifysgol Cymru’n cyfrannu at gyhoeddiad gan gyrch gweithredol NASA sy’n rhoi sylw i’r Gymraeg

Gyda delweddau artistig o lechweddau sy’n erydu, crateri ardrawiadau, tirweddau pegynol anghyffredin, eirlithriadau a lluniau rhyfeddol o ddisgyniad chwilwyr fel y Phoenix Lander a Labordy Gwyddoniaeth Mawrth, mae cyhoeddiad newydd gan Wasg Prifysgol Arizona yn gwahodd y darllenydd ar daith weledol ar draws arwyneb y blaned Mawrth.

Mae Mars: The Pristine Beauty of the Red Planet yn cynnwys yn agos at 200 o ffotograffau sydd wedi’u dewis yn ofalus o blith delweddau a dynnwyd gan gamera HiRISE (High Resolution Imaging Science Experiment) dan arweiniad Prifysgol Arizona, sydd wedi bod yn cylchu Mawrth ar Gylchwr Rhagchwilio Mawrth NASA ers 2006. Yn cyd-fynd â phob delwedd fanwl, ceir capsiynau eglurhaol sy’n amrywio mewn 24 o ieithoedd gwahanol, gan gynnwys y Gymraeg.

Paratowyd y cyhoeddiad a’i destun gan Alfred McEwen, prif ymchwilydd prosiect HiRISE, Candice Hansen-Koharcheck, dirprwy brif ymchwilydd HiRISE, ac Ari Espinoza, cydlynydd allgymorth HiRISE. Ffrwyth The BeautifulMars Project yw’r gyfrol er hybu’r syniad bod gwybodaeth am y blaned Mawrth yn eiddo i bawb.

Fel rhan o’r prosiect, mae gwirfoddolwyr o bedwar ban byd yn cyfieithu’r capsiynau i 24 iaith ar gyfer y miloedd o ddelweddau o’r camera HiRISE – y camera mwyaf pwerus â chydraniad uchel a anfonwyd at blaned arall erioed – a dyma’r unig adnodd gan NASA sy’n defnyddio’r Gymraeg. Mae rhai o’r delweddau hyn nawr wedi’u dethol ar gyfer y cyhoeddiad, sy’n gyfrol unigryw yn deillio o gyrch gweithredol NASA.

Yn ogystal â chapsiynau Cymraeg, mae’r prosiect yn cynnwys dyfyniadau o farddoniaeth Gymraeg ac allan o nifer o gyfrolau Gwasg Prifysgol Cymru (GPC) yn y gyfres Writers of Wales.

Fel rhan o hyrwyddiad y prosiect ac i ddathlu’r cyhoeddiad cyntaf erioed gan gyrch gweithredol NASA i ddefnyddio’r Gymraeg, ymwelodd y cydawdur Ari Espinoza â Chymru a chyfarfod â staff GPC i gyflwyno copi o’r cyhoeddiad i Brifysgol Cymru a phobl Cymru ar ran Prifysgol Arizona a’r prosiect. Yn gyfnewid, cyflwynodd GPC gopi iddo o Wyddoniadur Cymru. Yn ystod ei amser yng Nghymru, bu Ari hefyd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe, ac ymwelodd ag Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd lle bu’n siarad gyda myfyrwyr TGAU a Safon Uwch.

Wrth sôn am y prosiect, a chynnwys y Gymraeg fel rhan ohono, dywedodd Ari:

“Mae’n fraint i ni gael defnyddio iaith y Nefoedd ar gyfer disgrifio rhywbeth yn y Nefoedd.”

Yn ysbryd ‘camera’r bobl ar y blaned Mawrth’, caiff yr holl ddelweddau a anfonir yn ôl i’r Ddaear eu cyhoeddi ar wefan HiRISE. Ceir ffrwd twitter o’r cyrch hefyd, sydd â fersiwn Cymraeg – @HiRISEWelsh

Ceir rhagor o wybodaeth am The BeautifulMars Project a HiRISE ar y wefan – https://www.uahirise.org/epo/

Mae’r cyhoeddiad Mars: The Pristine Beauty of the Red Planet ar gael mewn siopau llyfrau ac ar-lein – http://www.uapress.arizona.edu/Books/bid2683.htm