Areithiau ac Erthyglau 1968- 2012, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

Am y tro cyntaf, bydd areithiau Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar gael mewn set o ddwy gyfrol mewn prosiect cydweithredol gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Maryland a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae’r Athro David Cadman a’r Athro Suheil Bushrui wedi crynhoi detholiad o areithiau ac erthyglau gan Dywysog Cymru sy’n cwmpasu cyfnod o dros ddeugain mlynedd dan benawdau sy’n cynnwys ei brif ddiddordebau a gweithgareddau: yr amgylchedd naturiol, a fynegir drwy ffermio, coedwigaeth a physgodfeydd, ac yna newid hinsawdd; pensaernïaeth a’r amgylchedd adeiledig; meddygaeth integredig ac iechyd; cymdeithas, crefydd a thraddodiad; addysg, Ymddiriedolaeth y Tywysog a Busnes yn y Gymuned.

Bwriedir y cyfrolau hyn fel gwaith cyfeiriol, yn ddarlun o Dywysog Cymru wrth i’w syniadau, ei wybodaeth a’i brofiad ddatblygu, o’i araith gyntaf yn ugain oed ym 1968, i’w areithiau diweddaraf hyd at 2012.

Yr hyn sy’n fwyaf nodedig serch hynny yw er bod arddull yr areithiau a’r erthyglau wedi newid o bosibl dros y blynyddoedd, mae’r neges gyffredinol wedi aros yn gyson, nid yn unig yn nhermau diraddio’r amgylchedd a newid yn yr hinsawdd, ond hefyd o ran materion yn ymwneud â gofal iechyd, ffurfiau trefol, ffermio organig a’r angen am fwy o barch a dealltwriaeth rhwng crefyddau, sy’n adrodd cyfrolau am angerdd y Tywysog a’i ymrwymiad i’r hyn mae’n ei gredu, hyd yn oed ar adegau pan ystyriwyd ei syniadau’n anghonfensiynol.

Wrth sôn am y cyhoeddiad, esboniodd yr Athro Medwin Hughes DL, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

“Mae’r gyfrol hon yn llwyddo i grynhoi doethineb ac ysbrydoliaeth meddyliwr trawsnewidiol sydd wedi gosod stiwardiaeth yn gysyniad canolog i’w ymrwymiad i wasanaethu a’i gefnogaeth i fyd cynaliadwy.”

Ychwanegodd Deon Prifysgol Maryland, sy’n rhan o’r prosiect cydweithredol:

“Mae llawer i’w fwynhau yn y cyfrolau hyn a llawer i ennyn trafodaethau cenedlaethol a rhyngwladol am rai o bynciau mwyaf hanfodol ein hoes.”