I ddathlu Wythnos y Llyfr Academaidd rydym wedi gostwng pris ein teitlau 2016 i gyd 20% – defnyddiwch y côd ABW17 ar ein gwefan nes diwedd Ionawr.

Roedd rhestr llynedd yn un amrywiol eto, yn cynnwys llyfrau ar ystod o bynciau academaidd a phoblogaidd. Dyma ddetholiad bach, gyda llawer mwy ar gael ar draws y wefan:

Credoau’r Cymry: Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol
Gan Huw L. Williams
Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L. Williams yn amlygu nifer o’n credoau fel cenedl, sydd wedi profi’n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny. Ymysg y sawl sy’n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dwr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda’u syniadau pwysicaf wedi’u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy’n cynnig cyflwyniad hygyrch i’r darllenydd. Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o’r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglyn â grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau. Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a’r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi’i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach. Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru. Dyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o’n credoau fel cenedl.

Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru
Gan Gethin Matthews
Er gwaethaf pwysigrwydd canolog y Rhyfel Mawr yn hanes modern Cymru, prin iawn yw’r gweithiau academaidd sy’n olrhain dylanwad maleisus a phellgyrhaeddol y rhyfel ar ddiwylliant a chymdeithas yng Nghymru. Amcan y gyfrol hon yw dechrau ar y gwaith o unioni’r cam mewn gwaith sy’n cynnwys cyfraniadau gan nifer o ysgolheigion disglair i’n cynorthwyo i ddeall yn well sut newidiodd y byd Cymreig am byth yn sgil digwyddiadau 1914–18, gan olrhain datblygiadau yng nghymdeithas a diwylliant Cymru o’r cyfnod cyn y rhyfel hyd at y presennol.


Cyfoethogi’r Cyfathrebu: Llawlyfr ymarferol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion
Golygwyd gan Christine Jones, Steve Morris
Diweddariad o’r gyfrol Cyflwyno’r Gymraeg: Llawlyfr i Diwtoriaid (2000) dan olygyddiaeth Christine Jones yw Cyfoethogi’r Cyfathrebu: Llawlyfr Ymarferol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae’r gyfrol hon yn cynnwys rhai o benodau’r gyfrol wreiddiol wedi’u diweddaru, ynghyd â phenodau newydd ar feysydd sydd wedi dod yn fwy amlwg yn y maes ers 2000 (er enghraifft, dysgu anffurfiol, addysgu ar-lein, y fframwaith asesu newydd a chyfraniad y maes i bolisïau iaith cenedlaethol). Ceir penodau ar y wers gyntaf, gweithgareddau cyfathrebol, meithrin sgiliau gwahanol megis sgiliau ysgrifennu neu sgiliau gwylio, a phennod agoriadol ar ddulliau dysgu ar dwf y maes a’r syniadau a ddylanwadodd ar fethodoleg dros yr ugeinfed ganrif a’r ganrif hon.


Nid Sianel Gyffredin Mohoni! Hanes Sefydlu S4C
Gan Elain Price
Dyma’r astudiaeth gyntaf ar hanes blynyddoedd cynnar un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru – Sianel Pedwar Cymru – sy’n cloriannu penderfyniadau a gweithgareddau’r sianel yn ystod blynyddoedd ei chyfnod prawf rhwng 1981 a 1985. Trwy gyfrwng astudiaeth o gofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau gydag unigolion fu’n allweddol i fenter gyffrous S4C, eir ati i ddarlunio’r sialensiau, y llwyddiannau a’r methiannau fu’n wynebu Awdurdod a swyddogion S4C wrth iddynt fynd ati i lunio gwasanaeth teledu Cymraeg fyddai’n ateb gofynion ac anghenion y gynulleidfa yng Nghymru. Ceir yn y gyfrol hefyd ddadansoddiad o’r gwersi y gall hanes y sianel ei gynnig i’w swyddogion cyfredol wrth iddynt fynd ati i’w gosod ar seiliau cadarn ar gyfer dyfodol sy’n ymddangos yn gynyddol ansicr.


Williams Pantycelyn
Gan Saunders Lewis, Gyda rhagymadrodd newydd gan D. Densil Morgan
Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd y gyfrol ffordd newydd i ddehongli athrylith yr emynydd o Bantycelyn, a thrwy hynny sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar a chreadigol ei genhedlaeth. Er mwyn nodi trichanmlwyddiant geni’r emynydd yn 2017, mae Gwasg Prifysgol Cymru yn ailgyhoeddi’r gyfrol; mewn rhagymadrodd helaeth i’r cyhoeddiad newydd, mae D. Densil Morgan yn dadansoddi cynnwys y gwaith, ei dafoli’n feirniadol ac yn olrhain ei ddylanwad ar y meddwl Cymreig o’i gyhoeddi yn 1927 hyd heddiw. Mae’n ddathliad deublyg o greadigrwydd Saunders Lewis ac o gyfraniad aruthrol y Pêr Ganiedydd i waddol y diwylliant cenedlaethol.

Cronica Walliae
Gan Humphrey Llwyd Golygwyd, gan Ieuan M. Williams, J. Beverley Smith
Argraffiad newydd
Yn sgil cyhoeddi Cronica Walliae yn 2002 cafwyd, am y tro cyntaf erioed, destun argraffedig o waith ysgolheigaidd mewn llawysgrifau o’r unfed ganrif ar bymtheg. Graddiodd ei awdur, yr hynafiaethydd Humphrey Llwyd, a aned yn Ninbych ym 1527, o Brifysgol Rhydychen ac aeth i wasanaethu iarll Arundel. Gwasanaethodd fel aelod seneddol ddwywaith ac, fel aelod dros Ddinbych ym 1569, fe’i cydnabyddir am hwyluso hynt y mesur ar gyfer cyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Cyffredin i’r Gymraeg. Bu farw yn Ninbych ym 1568, a saif ei gofeb yn eglwys plwyf Llanfachrell. Cronica Walliae yw gwaith mwyaf sylweddol Humphrey Llwyd ac mae’n seiliedig ar y cronicl Cymreig canoloesol, Brut y Tywysogyon, naratif am frenhinoedd a thywysogion Cymru o farwolaeth Cadwaladr Fendigaid i Llywelyn ap Gruffudd. Fe’i defnyddiwyd gan David Powel wrth baratoi ei Historie of Cambria (1584), ac mae ei astudio heddiw yn golygu y gellir cael gwell gwerthfawrogiad o gyfraniad dau ysgolhaig a osododd, rhyngddynt, y sylfeini ar gyfer ysgrifennu hanesyddol modern Cymreig ar y cyfnod canoloesol. Ni oroesodd yr un llawysgrif o law Llwyd ei hun, ac mae’r argraffiad presennol yn seiliedig ar NLW Llanstephan 177, gyda darlleniadau gwahanol o BL Cotton Caligula Avi.