Abbeys and Priories of Medieval Wales

Awdur(on) Janet Burton,Karen Stöber

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Welsh and Celtic Studies, Religion

  • Chwefror 2015 · 288 tudalen ·234x156mm

  • · Clawr Caled - 9781783161799
  • · Clawr Meddal - 9781783161805
  • · eLyfr - pdf - 9781783161812
  • · eLyfr - epub - 9781783161829

Dyma'r canllaw ysgolheigaidd cyntaf, yn llawn darluniau, i fynachlogydd, abatai a phriordai Cymru – o'r Goresgyniad Normanaidd i Ddiddymiad y Mynachlogydd. Yn y cyflwyniad manwl i’r gyfrol, ceir cyd-destun hanesyddol, archaeolegol, diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol eang ar gyfer bron i drigain o dai crefydd unigol. Yn gyforiog o fapiau, llorgynlluniau a gwybodaeth ymarferol, mae hwn nid yn unig yn lyfr ysgolheigaidd ond hefyd yn ganllaw defnyddiol i unrhyw un sy’n ymweld â mynachlogydd ein gwlad.

Awdur(on): Janet Burton

Mae Janet Burton yn Athro mewn Hanes Canoloesol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.

Darllen mwy

Awdur(on): Karen Stöber

Mae Karen Stöber yn Ddarlithydd mewn Hanes Canoloesol ym Mhrifysgol Lleida, Sbaen.

Darllen mwy