Americanism, Media and the Politics of Culture in 1930s France

Awdur(on) David A. Pettersen

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Philosophy

Cyfres: French and Francophone Studies

  • Mai 2016 · 368 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Caled - 9781783168507
  • · eLyfr - pdf - 9781783168514
  • · eLyfr - epub - 9781783168521

Am y llyfr

Roedd gangsters, awyrenwyr, ditectifs penstiff a phenderfynol, drwgweithredwyr â drylliau, jazz a delweddau o’r metropolis Americanaidd oll yn rhan annatod o dirlun diwylliannol Ffrainc rhwng y ddau ryfel. Er bod yna ddealltwriaeth erioed bod y 1930au yn Ffrainc yn gwbl wrth-Americanaidd, mae’r llyfr hwn yn dangos sut y gwnaeth cenhedlaeth ifanc newydd o awduron a gwneuthurwyr ffilm Ffrengig yn y 1930au ddechrau edrych ar ddiwylliant Americanaidd gydag edmygedd yn ogystal â beirniadaeth. I rai, mae’r America ddychmygol oedd yn cael ei phortreadu yn ffilmiau Hollywood, adroddiadau papur newydd, rhaglenni radio a ffuglen wedi’i chyfieithu yn cynrychioli cymdeithas y dyfodol, tra i eraill roedd yn ymgnawdoliad o fygythiad enbyd i hunaniaeth Ffrainc. Mae’r llyfr hwn yn dod â phersbectif trawsiwerydd arloesol i ddiwylliant Ffrainc yn y 1930au, gan ganolbwyntio ar nifer o ffigyrau enwocaf y cyfnod - gan gynnwys Marcel Carné, Louis-Fernand Céline, Pierre Drieu la Rochelle, Julien Duvivier, André Malraux, Jean Renoir a Jean-Paul Sartre - gan olrhain y ffyrdd yr aethant ati i geisio ail-ddehongli dimensiynau gwleidyddol a chymdeithasol moderniaeth ar gyfer cynulleidfaoedd torfol drwy gyfrwng America ddychmygol.

Cynnwys

Introduction
Chapter 1: Mass Culture and Leftist Politics in Jean Renoir
Chapter 2: The American Gangster in French Poetic Realism
Chapter 3: The Rise and Fall of the Gangster in André Malraux’s
Revolutionary Novels
Chapter 4: White Primitivism in Pierre Drieu la Rochelle
Chapter 5: Whitewashing the Transatlantic in Louis-Ferdinand Céline
Chapter 6: The Americanist Anti-Americanism of Jean-Paul Sartre’s Les
Chemins de la liberté
Conclusion

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): David A. Pettersen

Mae David Pettersen yn Athro Cynorthwyol mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Pittsburgh, lle mae’n gweithio hefyd fel Cyfarwyddwr Cyswllt y Rhaglen Astudiaethau Ffilm.

Darllen mwy