Breudwyt Ronabwy

Allan o'r Llyfr Coch o Hergest

Golygydd(ion) Melville Richards

Iaith: Cymraeg

  • Ionawr 1980 · 144 tudalen ·198x129mm

  • · Clawr Caled - 9780708302705
  • · Clawr Meddal - 9780708317013
  • · Clawr Meddal - 9780708326183

Yn Llyfr Coch Hergest y cadwyd yr unig gopi canoloesol o'r chwedl Arthuraidd Breudwyt Ronabwy, a'i hynodrwydd yw iddi leoli ei digwyddiadau ym myd breuddwyd yr arwr, dyfais a enghreifftir yma am y tro cyntaf mewn llenyddiaeth Gymraeg. Mae'n chwedl frodorol gymhleth, wedi'i chofnodi mewn arddull addurniedig sy'n cydblethu cymeriadau gwahanol gyfnodau yn hanes Cymru, weithiau'n gwrthgyferbynnu cewri'r gorffennol a dynion bychain oes yr awdur. Dyma olygiad Melville Richards o'r testun, a gyhoeddwyd yn gyntaf gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1948.

Awdur(on): Melville Richards

Bu'r Athro Melville Richards (1910-1973) yn dysgu ym Mhrifysgolion Abertawe a Lerpwl cyn cael ei benodi yn Athro'r Gymraeg ym Mangor ym 1965.

Darllen mwy