Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru
Golygydd(ion) Andrew James Davies,Gary Beauchamp
Iaith: Cymraeg
Dosbarthiad(au): Social Policy and Law
- Tachwedd 2025 · 176 tudalen ·210x148mm
- · Clawr Meddal - 9781837723935
- · eLyfr - pdf - 9781837723942
- · eLyfr - epub - 9781837723959
Wrth i Gymru nodi chwarter canrif o lunio polisïau datganoledig ym maes addysg, mae'r gyfrol olygiedig hon yn dathlu’r llwyddiannau ac yn bwrw golwg feirniadol ar yr heriau parhaus a wynebir gan gyfundrefn addysg Cymru. Mae ymchwilwyr o bob cwr o dirlun addysg y DU yn mynd i’r afael â chwestiynau tyngedfennol am arweinyddiaeth diwygio; am bwy sy’n gyfrifol dros weithredu effeithiol agweddau arloesol ar bolisi ôl-ddatganoledig (megis y Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm i Gymru); am natur a pherchnogaeth atebolrwydd; am sut y gellir datblygu a chefnogi gweithwyr proffesiynol orau er mwyn cyflawni’r daith ddiwygio uchelgeisiol bresennol; a llawer mwy. Mewn ymateb i’r cwestiwn oesol ‘Pwy a gyfyd Cymru?’, mae’r gyfrol bresennol yn awgrymu mai cyfrifoldeb pob un ohonom yw gwneud hynny, ar bob lefel ac ar draws pob agwedd o gyfundrefn addysg sy’n parhau i esblygu ac sy’n wahanol iawn i’r hyn a fodolai cyn datganoli.
Awdur(on): Andrew James Davies
Mae Andrew James Davies yn Athro Addysg ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn Gyfarwyddwr i’r Ganolfan Ymchwil i Ymarfer. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys arweinyddiaeth addysgol, recriwtio a chadw penaethiaid, ac effaith polisi addysgol ar broffesiynoldeb ac ymarfer athrawon.Awdur(on): Gary Beauchamp
Mae Gary Beauchamp yn Athro Addysg yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac yn Athro Mygedol ym Mhrifysgol Durham. Mae’n gyfrannwr i gyfnodolion academaidd rhyngwladol, ac yn arweinydd profiadol ar nifer o brosiectau ymchwil sefydliadol.