Coastal Systems

Awdur(on) Simon K. Haslett

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Science

  • Gorffennaf 2016 · 240 tudalen ·244x172mm

  • · Clawr Meddal - 9781783169009
  • · eLyfr - pdf - 9781783169016
  • · eLyfr - epub - 9781783169023

Am y llyfr

Lle mae cefnforoedd, tir a’r atmosffer yn cyfarfod, mae tri grym deinamig yn cyfrannu at esblygiad ffisegol ac ecolegol arfordiroedd. Mae arfordiroedd yn systemau ymatebol, sy’n ddeinamig ynddynt eu hunain, gyda mewnbynnau ac allbynnau adnabyddadwy o ynni a deunydd, ac wrth ddarparu cartref i fwy na hanner poblogaeth ddynol y byd maent yn llefydd lle mae pobl yn gwrthdaro â phrosesau arfordirol naturiol yn aml. Mae’r llyfr hwn yn cynnig cyflwyniad cryno i’r prosesau, tirffurfiau, ecosystemau a’r dulliau o reoli’r amgylchedd byd-eang pwysig, ac yn cydnabod rôl digwyddiadau egni uchel, megis stormydd a tswnamis, sydd wedi amlygu eu hunain gydag effeithiau trychinebus dros y blynyddoedd diwethaf. Mewn penodau gyda darluniau ac astudiaethau achos cyfoes o bob cwr o’r byd, sefydlir ac astudir pwysigrwydd arfordiroedd o fewn fframwaith systemau; tonnau, llanw, afonydd a newid yn lefel y môr, sydd oll yn ddylanwad allweddol ar esblygiad ein harfordiroedd.

Cyflwyno'r Awdur(on)

-
+

SÊL GWANWYN

Manteisiwch ar 70% oddi ar dros 300 o'n llyfrau!