Cranogwen

Awdur(on) Jane Aaron

Iaith: Cymraeg

Cyfres: Dawn Dweud

  • Ebrill 2023 · 256 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781837720255
  • · eLyfr - pdf - 9781837720262
  • · eLyfr - epub - 9781837720279

Am y llyfr

Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus. Mae’r gyfrol hon yn dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry ei hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol, a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.

Cyhoeddwyd cyfrolau bywgraffiadol ar Cranogwen ym 1932 a 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth (ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol) sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.

Dyfyniadau

‘Dyma glamp o lyfr i’w drysori sy’n croniclo bywyd a gwaith Cranogwen fel un o herlodesi mwyaf dylanwadol Cymru … gan grynhoi ei chyfraniad fel bardd, darlithydd, pregethwraig, ymgyrchydd a golygydd, a chwalodd ragfarnau ei chyfnod. Gwnaeth yr awdur gymwynas aruthrol â’r genedl wrth roi inni lais croyw y fenyw yng Nghymru fel un ganolog yn hanes y “ddynol ryw”. Diolchwn am gyfrol sydd yn dreiddgar, yn dyner ac yn angerddol wrth ddadlennu bywyd bythgofiadwy yn gyforiog o ryfeddoddau.’
Menna Elfyn, bardd

‘Yn yr astudiaeth ddadlennol a hynod ddarllenadwy hon cawn ddarlun byw o ragfarnau Cymru Oes Fictoria lawn cymaint â'r wraig ryfeddol a anturiodd yn eu herbyn. Roedd Cranogwen yn fardd, morwr, areithydd, ysgolfeistres, golygydd, dirwestwraig, a llawer mwy. Brwydrodd yn erbyn cyfyngderau ei hoes gydag angerdd ac asbri, a dengys cofiant ysgubol Jane Aaron iddi mor berthnasol yw ymroddiad a gweledigaeth Cranogwen hyd heddiw. Dyma gyfrol ragorol gan ysgolhaig sydd wedi gwneud mwy na neb i ddarlunio mor gyfoethog a gwerthfawr ydyw cyfraniad merched i lenyddiaeth Cymru.’
Yr Athro Angharad Price, Prifysgol Bangor

Cynnwys

Diolchiadau
Rhagarweiniad
1. ‘Merch y Graig’
2. ‘Merch y Lli’
3. ‘Yr Awenferch’
4. ‘Llafur a Llwyddiant’
5. Tu Draw i’r Iwerydd
6. ‘Fy Ffrynd’
7. ‘Yr Ol’ a’i Brythonesau
8. Modryb Gofidiau
9. ‘Yr Efengyles’
10. ‘Byddin Merched Dewr y De’
Nodiadau
Mynegai

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Jane Aaron

Mae Jane Aaron yn Athro mewn Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru. Hi yw awdur Pur fel y Dur - Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998) a golygydd Our Sisters' Land (ailargraffwyd 2004) a Postcolonial Wales (2005). Ei llyfr diweddaraf yw Welsh Gothic (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013).

Darllen mwy