Credoau'r Cymry

Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol

Golygydd(ion) Huw L. Williams

Iaith: Cymraeg

Dosbarthiad(au): Welsh Interest, History

  • Gorffennaf 2016 · 240 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781783168804
  • · eLyfr - pdf - 9781783168811
  • · eLyfr - epub - 9781783168828

Am y llyfr

Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L. Williams yn amlygu nifer o’n credoau fel cenedl, sydd wedi profi’n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny. Ymysg y sawl sy’n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dŵr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda’u syniadau pwysicaf wedi’u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy’n cynnig cyflwyniad hygyrch i’r darllenydd. Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o’r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglŷn â grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau. Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a’r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi’i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach. Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru. Dyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o’n credoau fel cenedl.

Dyfyniadau

‘Dyma gyfrol bwysig sy’n siŵr o gydio yn nychymyg ei darllenwyr. Cyfunir ymddiddan ffuglennol a dadansoddi deallusol mewn modd gafaelgar i ddatgelu gwedd newydd ar athroniaeth yn y Gymraeg.’
-Dr Rhiannon Marks, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

‘Mewn cyfrol arloesol sy’n trafod daliadau meddylwyr Cymreig o’r Oesoedd Tywyll hyd at yr ugeinfed ganrif, mae’r awdur yn gofyn a oes gennym fel Cymry draddodiad syniadol. Mewn modd heriol a hynod fywiog, fe’n cyflwynir i ddadleuon y gorffennol cyn i’r awdur fynd ati i’w cloriannu’n fedrus – mae ei ddawn fel addysgwr yn sicrhau y bydd ystod eang iawn o ddarllenwyr yn cael boddhad ac ymoleuad wrth ddarllen ei lyfr.’
–E. Gwynn Matthews

‘Mae hon yn gyfrol wreiddiol ac apelgar sy’n hawlio’r sylw ac yn ysgogi’r meddwl. Mewn cyfres o ymddiddanion a dadansoddiadau, mae Huw L. Williams yn ein harwain drwy hanes syniadaeth athronyddol yng Nghymru, o Pelagius i Raymond Williams, gan wneud cyfraniad nodedig at y traddodiad deallusol Cymreig.’
-Yr Athro Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe

'Cyfrol ryfeddol o ddiddorol a hollol wreiddiol a fydd yn bendant yn ysgogi llawer iawn o drafod a dadlau ynghylch ei chynnwys. Yn ddi-os mae'n gyfraniad nodedig at y traddodiad deallusol Cymreig. Ac mae'n siŵr y bydd gan yr ysgolhaig galluog hwn rhagor o ddanteithion ar ei chyfer yn ystod y blynyddoedd nesaf hyn. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at ei gyhoeddiadau yn y dyfodol. Melys moes mwy yn wir.'
- Dr J. Graham Jones, Y Cymro, 21 Ebrill 2017

'Y mae Huw Williams wedi ysgrifennu llyfr campus. Y mae'r syniad tu ôl iddo yn wreiddiol, y cyflwyniad yn feistrolgar a'r cynnwys yn wybodus a chraff...Y mae'r ymddiddanion yn hynod o ddeheuig a dyfeisgar ac yn aml iawn yn ddoniol hefyd. Llwydda'r awdur i wneud eu testunau yn gymeriadau diddorol a byw, yn feddyliol ac yn bersonol.'
- Yr Athro Emeritws Robin Okey, Y Traethodydd, Hydref 2017

Cynnwys

1.Gosod yr Olygfa
2.Natur Ddynol – Pelagius
3.Cyfraith a Gwladwriaeth - Hywel Dda a Glyn Dŵr
4.Y Da, Y Duwiol a’r Gwleidyddol - Richard Price
5.Addysg, Cymuned a Chyfalafiaeth - Robert Owen
6.Heddychiaeth - Henry Richard a David Davies
7.Sosialaeth - Aneurin Bevan a Raymond Williams
8.Cenedlaetholdeb - Lady Llanover, Michael D Jones a JR Jones
9.Diweddglo

Cyflwyno'r Golygydd(ion)

Awdur(on): Huw L. Williams

Mae Huw L. Williams yn addysgu athroniaeth gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Darllen mwy