Culhwch ac Olwen
Golygydd(ion) Rachel Bromwich,D. Simon Evans
Iaith: Cymraeg
- Gorffennaf 1988 · 328 tudalen ·198x129mm
- · Clawr Caled - 9780708309766
- · Clawr Meddal - 9780708326190
Culhwch ac Olwen yw un o chwedlau hynaf yr iaith Gymraeg a ddeil yn enghraifft ryfeddol o ddawn ddisgrifiadol a theithi iaith y Cyfarwydd. Yn ystorfa o draddodiadau brodorol, gwelir ynddi fotiffau amlwg chwedlau cydwladol, ac mae i'r chwedl bwysigrwydd Ewropeaidd fel un o'r testunau Arthuraidd hynaf. Ffrwyth gwaith ar destun Syr Idris Foster (1911 - 84) o'r chwedl yw'r gyfrol hon, a gwblhawyd gan Rachel Bromwich (1915 - 2010) a D. Simon Evans (1921 - 98), a'i chyhoeddi yn gyntaf gan Wasg Prifysgol Cymru ym 1988.
Awdur(on): Rachel Bromwich
Roedd Rachel Bromwich yn Ddarllenydd Emeritws mewn Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd yn yr Adran Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg ym Mhrifysgol Caergrawnt.Awdur(on): D. Simon Evans
Roedd D. Simon Evans yn Athro yn y Gymraeg ac yn Ddirprwy Bennaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.