Diffinio Dwy Lenyddiaeth Cymru
Golygydd(ion) M. Wynn Thomas
Iaith: Cymraeg
Cyfres: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
- Rhagfyr 1995 · 192 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9780708313299
Ceir yn y gyfrol hon ysgrifau gan wyth awdur gwahanol yn trafod y berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth Saesneg Cymru. Dyma'r gyfrol gyntaf yn y gyfres Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig dan olygyddiaeth John Rowlands.
Awdur(on): M. Wynn Thomas
M. Wynn Thomas yw'r Athro Emyr Humphreys mewn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n Gymrawd yr Academi Brydeinig, ac mae wedi cyhoeddi ugain o lyfrau ar farddoniaeth Americanaidd ac ar ddwy lenyddiaeth Cymru.