Dissonant Neighbours
Narrative Progress in Early Welsh and English Poetry
Awdur(on) David Callander
Iaith: Saesneg
Dosbarthiad(au): Medieval
- Ebrill 2019 · 320 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9781786833983
- · eLyfr - pdf - 9781786833990
- · eLyfr - epub - 9781786834003
Mae Dissonant Neighbours yn cymharu barddoniaeth Gymraeg a Saesneg o’r cyfnod cyn 1250 ac yn ymchwilio i’r rhesymau pam y mae’r ddwy lenyddiaeth, sydd mor agos at ei gilydd yn ddaearyddol, yn adrodd digwyddiadau tebyg mewn ffyrdd hynod wahanol. Dylanwadwyd ar lenyddiaeth Gymraeg a Saesneg yr Oesoedd Canol gan nifer o’r un ffynonellau Lladin a Ffrangeg, ac mae hyn i’w weld yn y straeon a adroddir ac a rennir yn y ddau draddodiad barddol. Manteisir ar ddull o gymharu a gwrthgyferbynnu barddoniaeth Gymraeg a Saesneg i gynnig cipolwg ar dueddiadau naratif y ddwy. Pam, ble a sut y mae beirdd Cymraeg a Saesneg yn defnyddio naratif?
Dyma’r cwestiynau y mae’r llyfr hwn am geisio eu hateb, gan gynnig astudiaeth hollol newydd sy’n ymdrin yn gytbwys â’r farddoniaeth Gymraeg a Saesneg. Cyfrennir at ddadleuon cyfoes ynghylch amlieithrwydd a’r berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, ac fe rennir y llyfr yn bedair bennod gymharol, sy’n gwrthgyferbynnu ystod eang o ddeunydd cynnar Cymraeg a Saesneg ac yn cynnig darlleniadau treiddgar newydd o’r traddodiadau barddol hyn.
Acknowledgements
Abbreviations
Preface
Introduction
Chapter 1: Battle
Chapter 2: Narrative at the End of the World
Chapter 3: Retelling Christ’s Birth and Early Life
Chapter 4: List and Narrative
Conclusions
Bibliography
Appendices
Index