Freedom Music

Wales, Emancipation and Jazz 1850-1950

Awdur(on) Jen Wilson

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Media, Film and Theatre

  • Ebrill 2019 · 336 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786834072
  • · eLyfr - pdf - 9781786834089
  • · eLyfr - epub - 9781786834096

Mae’r gyfrol hon yn mynd ati ar ran Cymru i adennill hanes a diwylliant y gerddoriaeth a ddatblygodd yn y pen draw yn jazz yn y 1920, gyda’i thendrilau a’i gwreiddiau’n estyn yn ôl i ganeuon y caethweision a chaneuon yr ymgyrch i ddileu caethwasiaeth, a chyswllt Abertawe gyda Cincinnati, Ohio, sydd wedi’i hen anghofio. Prif themâu’r gyfrol yw darlunio a phwysleisio’r cysylltiadau cryf rhwng cerddoriaeth Affricanaidd-Americanaidd newydd yn yr Unol Daleithiau a datblygiad jazz yn y diwylliant poblogaidd prif ffrwd yng Nghymru; rhyddfreinio menywod Cymru a’u cyfraniad i’r gerddoriaeth a’i hetifeddiaeth gymdeithasol-ddiwylliannol; a gwerthusiad hanesyddol wrth i’r gerddoriaeth deithio tuag at yr Ail Ryfel Byd ac i’r cof byw. Caiff stori jazz ei gosod ymhlith gwleidyddiaeth, hanes cymdeithasol-ddiwylliannol a ffeministaidd y cyfnod o ble’r ymddangosodd y gerddoriaeth - sy’n codi’r cwestiwn "Pryd oedd Jazz?’ i adleisio’r cwestiwn a godwyd gan Gwyn A. Williams yn 1985, ‘Pryd oedd Cymru?’ Os caiff jazz ei ddisgrifio fel ‘cerddoriaeth protest a gwrthryfel’ yna yn sicr roedd digon o hynny ar waith yn ystod yr oes jazz yng Nghymru.

Dedication
Foreword
Preface
Acknowledgements
Illustrations
Introduction
The Life, Times and Music of Abolitionist Jessie Donaldson (1799–1889)
Doing the Plantation Walkaround Skedaddle
The Fisk Jubilee Singers in Wales, Freed Slaves and their Songs
Ragtime and the Cake Walk: On Stage and in the Workhouse
The First World War: Ragtime Trenches and Suffragettes
Cafe Society: The Jazz Age
Cutting a Rug to the Second World War: Jews and ‘Negro Morals’
Fair Treatment for the ‘Fair Sex’?
Conclusion
Notes
Bibliography
Index