Henry Richard
Heddychwr a Gwladgarwr
Awdur(on) Gwyn Griffiths
Iaith: Cymraeg
Cyfres: Dawn Dweud
- Tachwedd 2013 · 256 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9780708326800
- · eLyfr - pdf - 9780708326817
- · eLyfr - epub - 9781783162918
Bron nad aeth enw Henry Richard yn angof erbyn heddiw, eto yn ail hanner y 19eg ganrif ef oedd Cymro enwocaf ei gyfnod, a'i enw'n adnabyddus a pharch iddo ymhlith gwleidyddion ledled Ewrop a'r Unol Daleithiau. Dyma'r gyfrol gyflawn gyntaf ers dros canrif i'w hysgrifennu yn y Gymraeg am Henry Richard (1812 - 88), yr heddychwr a'r gwladgarwr o Dregaron. Rhoddodd Henry Richard ei stamp ar y mudiad heddwch ym Mhrydain, a chofir amdano fel amddiffynnwr y Cymry yn wyneb ymosodiadau diwylliannol - megis adroddiad y 'Llyfrau Gleision' ar addysg yng Nghymru yn 1847 - a dylanwad yr Eglwys Anglicanaidd. Bu'n ysgrifennydd ar y Gymdeithas Heddwch am yn agos i ddeugain mlynedd, gan ddod i amlygrwydd rhyngwladol fel lladmerydd y mudiad heddwch, ac fel ymgyrchydd dros gyflafareddu a diarfogi. Yn dilyn ei ethol yn aelod seneddol dros Ferthyr ac Aberdar yn 1868, ef yn anad neb a adwaenid fel 'Yr Aelod Dros Gymru', a chwaraeodd ran amlwg yn natblygiad addysg yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu colegau prifysgol Aberystwyth a Chaerdydd.
1 Dyddiau ieuenctid - Ceredigion, Caerfyrddin ac anelu am Lundain 2 Llundain, coleg, ymsefydlu'n weinidog a thrafferthion Edward 3 Y Gymdeithas Heddwch a'r Cynhadleddau Ewropeaidd 4 Rhyfel y Crimea, Cytundeb Paris, yr ymosod ar China a gwrthryfel India 5 Cymru, y Llythyrau, newyddiadura, rhyfel America a marwolaeth Cobden 6 Ethol Richard i'r Senedd a'i ymgyrchoedd dros denantiaid, addysg, yn erbyn barnwyr Seisnig a sefydlu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 7 Ymgyrchoedd heddwch a'r Cynnig Cyflafareddiad 8 Y Bererindod Heddwch 9 Materion crefyddol ac addysgol, llythyrau Cobden, dychweliad Gladstone oherwydd helyntion Twrci, dirwest ac Eisteddfod Merthyr 10 Mwy o ymgyrchu yn erbyn rhyfeloedd Imperialaidd 11 Tua'r cyfandir, masnach gyda China, llywyddu'r Undeb Cynulleidfaol, ffeministiaith a'r Mesur Diarfogi 12 Ei her fawr olaf a thynnu at ddiwedd y daith