Hywel ab Owain Gwynedd
Bardd-Dywysog
Awdur(on) Nerys Jones
Iaith: Cymraeg
- Ionawr 2009 · 192 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9780708321621
Dyma'r gyfrol gyntaf erioed i ganolbwyntio ar y bardd serch a'r tywysog a ysbrydolodd feirdd a llenorion, gan gynnwys Goronwy Owen, Iolo Morganwg a T. Gwynn Jones. Fe'i lladdwyd yn ei anterth gan ei hanner brawd, Dafydd, mewn brwydr ym Mhentraeth, Môn, yn 1170. Ysgrifau gan Morfydd E. Owen, J. Beverley Smith, Huw Meirion Edwards, Dafydd Johnston, Rhian M. Andrews a Nerys Ann Jones.