'Iaith Oleulawn'

Geirfa Dafydd ap Gwilym

Awdur(on) Dafydd Johnston

Iaith: Cymraeg

  • Mehefin 2020 · 320 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786835673
  • · eLyfr - pdf - 9781786835680
  • · eLyfr - epub - 9781786835697

Dyma’r astudiaeth gyflawn gyntaf o eirfa Dafydd ap Gwilym. Dangosir ynddi sut y creodd Dafydd farddoniaeth gyfoethog ac amlweddog trwy gyfuno ieithwedd hen a newydd, llenyddol a llafar, brodorol ac estron. Trafodir y geiriau a gofnodwyd am y tro olaf yn ei waith, a’r nifer fawr a welir am y tro cyntaf, y benthyciadau o ieithoedd eraill, ei ddulliau o ffurfio geiriau cyfansawdd, a geirfa arbenigol amryw feysydd fel crefydd, y gyfraith, masnach a’r meddwl dynol. Roedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod o newid mawr yn yr iaith Gymraeg yn sgil datblygiadau cymdeithasol a dylanwadau gan ieithoedd eraill, a manteisiodd Dafydd ar yr ansefydlogrwydd i greu amwysedd cyfrwys. Trwy sylwi’n fanwl ar y defnydd o eiriau gan Ddafydd a’i gyfoeswyr, datgelir haenau newydd o ystyr sy’n cyfoethogi ein dealltwriaeth o waith un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.

Awdur(on): Dafydd Johnston

Yr Athro Dafydd Johnston yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth.

Darllen mwy