Medieval Wales c.1050-1332

Centuries of Ambiguity

Awdur(on) David Stephenson

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): History

Cyfres: Rethinking the History of Wales

  • Mawrth 2019 · 256 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786833860
  • · eLyfr - pdf - 9781786833877
  • · eLyfr - epub - 9781786833884

Ar ôl amlinellu cofnodion confensiynol am Gymru yn y Canol Oesoedd Uchel, mae’r gyfrol hon yn mabwysiadu agweddau mwy radical at y pwnc. Yn hytrach na thrafod ymddangosiad Gororau Cymru o safbwynt arferol arglwyddi ‘mewnwthiol’ y mers, er enghraifft, fe’i hystyrir o safbwynt Cymreig gan egluro atyniad ardal y Gororau i dywysogion Cymru a’i chyfraniad i gwymp tywysogaeth gynhenid Cymru. Mae’r dadansoddiad o gyflawniadau tywysogion y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg yn canolbwyntio ar y broses baradocsaidd lle’r oedd strwythurau gwleidyddol cynyddol soffistigedig a diwylliant gwleidyddol newidiol yn cynnal tywysogaeth ymreolaethol, ond hefyd yn hwyluso cymathu llawer o Gymru i mewn i ‘ymerodraeth’ Seisnig yn y pen draw. Caiff y goncwest Edwardaidd sylw hefyd, a dadleuir ochr yn ochr â’r caledi a’r gorthrwm dilynol a ddioddefwyd gan lawer, y bu i’r dosbarth cynyddol o weinyddwyr ac arweinwyr cymunedol yng Nghymru oedd yn hanfodol i lywodraethu Cymru fwynhau oes o gyfloedd. Dyma lyfr sy’n cyflwyno’r darllenydd i’r dynion a’r menywod enwog a llai adnabyddus a siapiodd Gymru’r canol oesoedd.

Acknowledgements
Abbreviations
Maps
Genealogical tables
Introduction
CHAPTER 1- An outline survey of Welsh political history, c.1050–1332
CHAPTER 2 - The Age of the Princes: shifting political cultures and structures
CHAPTER 3 - The other Wales: the March
CHAPTER 4 - The limits to princely power
CHAPTER 5 - New ascendancies
Envoi
Notes
Select bibliography
Index

Awdur(on): David Stephenson

Mae David Stephenson yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, Prifysgol Bangor. Mae ei gyhoeddiadau diweddar yn cynnwys cyfraniadau at Wales and the Welsh in the Middle Ages (2012) a Monastic Wales: New Approaches (2013).

Darllen mwy