On Art and Painting

Vicente Carducho and Baroque Spain

Golygydd(ion) Jean Andrews,Jeremy Roe,Oliver Noble Wood

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Modern Languages, Art and Music

Cyfres: Studies in Visual Culture

  • Gorffennaf 2016 · 432 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Caled - 9781783168590
  • · eLyfr - pdf - 9781783168606
  • · eLyfr - epub - 9781783168613

Am y llyfr

Mae’r llyfr yn gasgliad o bedwar ar ddeg o draethodau ar y Dialogues on Painting, a gyhoeddwyd ym 1633 gan Vicente Carducho (1568-1638), yr arlunydd a’r damcaniaethwr celf Sbaenaidd a anwyd yn Fflorens. Hwn oedd y traethawd cyntaf yn Sbaeneg ar y grefft o beintio, a ysgrifennwyd fel rhan o ymgyrch a arweiniwyd gan Carducho mewn cydweithrediad ag arlunwyr blaenllaw eraill oedd yn gweithio ym Madrid, i godi statws yr artist o grefftwyr i artist rhyddfrydol. Mae’r traethawd yn rhoi trosolwg o’r asio rhwng theori celf y Dadeni Eidalaidd ac ymarfer Madrilenaidd y cyfnod baróc. Mae’n cynnig darlun uniongyrchol hefyd o gasglu ym Madrid yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn yn ehangiad cyflym y brifddinas. Mae’r casgliad presennol o ysgrifau gan haneswyr celf a sbaenigwyr o’r DU, Sbaen, yr Almaen a’r Unol Daleithiau yn archwilio pob un o’r deialogau yn fanwl, yn rhoi hanes ymgyrch Carducho i sefydlu academi beintio ac i broffesiynoli swydd yr arlunydd; ac yn rhoi manylion hanes cyhoeddi’r traethawd a’r berthynas rhwng peintio a barddoniaeth; ac mae’n cyfeirio at baentiadau Carducho ei hun mewn perthynas â’r traddodiadau Eidaleg a Sbaeneg yr oedd yn gweithredu ynddynt.

Cynnwys

1 Vicente Carducho and the Spanish Literary Baroque
Jeremy Lawrance
2 Observations on the Readership and Circulation of the Diálogos,
Marta Cacho Casal
3 Personal and Professional Relations between the Carducho brothers and Federico Zuccari.
Macarena Moralejo Ortega
4 Italian Training at the Spanish Court: Vicente Carducho’s Artistic Formation
Rebecca J. Long
5 Connoisseurs, Collectors, Patrons, and the Odd Engineer: Vicente Carducho and Art Aficionados at the Madrid Court
José Juan Pérez Preciado
6 Painting and poetry in the Diálogos
Javier Portús
7 Carducho the conceptista
Colin Thompson
8 The Palace Painter and El Predicador de las gentes: Vicente Carducho and the Sacred Oratory of his Time
Juan Luis González García
9 Ideas About Religious Art in the Diálogos.
Marta Bustillo
10 Carducho’s late Holy Families and Decorous Representation
Jean Andrews
11 ‘Throwing New Light on the Portrait’: Vicente Carducho, Lázaro Díaz del Valle, and the Vindication of the Portrait in Golden Age Spain
José María Riello Velasco
12 Disegño to Dibujo: Vicente Carducho and the Eloquence of Drawing
Zahira Véliz
13 The paragone of painting and sculpture in the Diálogos
Karin Hellwig
14 Carducho on the art, science and poetics of the pintura de borrones
Jeremy Roe.

Cyflwyno'r Golygydd(ion)

Awdur(on): Jean Andrews

Mae Jean Andrews yn Athro Cyswllt mewn Sbaeneg, Portiwgaleg ac Astudiaethau Lladin Americanaidd ym Mhrifysgol Nottingham. Ei diddordebau ymchwil yw barddoniaeth yn y Saesneg a'r prif ieithoedd Romáwns, cyfieithu llenyddol, peintio crefyddol Sbaenaidd yng nghyfnod y Dadeni a’r Baróc, diwylliant gwyliau crefyddol yn yr un cyfnod, ac opera’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar themâu Sbaenaidd.

Darllen mwy

Awdur(on): Jeremy Roe

Mae Jeremy Roe yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol yn y Centro de História d’Aquém e d’Além-Mar, Universidade Nova Lisboa a Chymrawd Ymchwil Er Anrhydedd yn yr Adran Sbaeneg, Portiwgaleg ac Astudiaethau Lladin Americanaidd ym Mhrifysgol Nottingham.

Darllen mwy

Awdur(on): Oliver Noble Wood

Mae Oliver Noble Wood yn Gymrawd a Thiwtor mewn Ieithoedd Modern (Sbaeneg) yng Ngholeg Hertford, Rhydychen, ac yn Ddarlithydd Prifysgol mewn Llenyddiaeth Sbaeneg yr Oes Aur.

Darllen mwy