Our Changing Land

Revisiting Gender, Class and Identity in Contemporary Wales

Golygydd(ion) Dawn Mannay

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Gender Studies, Welsh Interest, History

Cyfres: Gender Studies in Wales

  • Mehefin 2016 · 352 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781783168842
  • · eLyfr - pdf - 9781783168859
  • · eLyfr - epub - 9781783168866

Mae yna newidiadau mawr wedi digwydd mewn cenedl fechan dros y ddau ddegawd diwethaf; mae hynodrwydd Cymru, o ran ei diwylliant a’i bywyd gwleidyddol, wedi tyfu’n sylweddol yn y cyfnod hwnnw. Mae’r casgliad wedi’i olygu gan sawl awdur Cymreig enwog, academyddion sy’n dod i’r amlwg ac artistiaid creadigol sydd wedi edrych ar yr hyn sy’n unigryw am Gymru a Chymreictod mewn modd rhyngddisgyblaethol ond cynhwysfawr. Mae cysyniadau craidd rhywedd, dosbarth cymdeithasol a hunaniaeth yn cael eu harchwilio drwy gydol y llyfr, sy’n cyflwyno deuddeg pennod mewn tair adran thematig benodol, sy’n gorgyffwrdd hefyd: Wales, Welshness, Language and Identity, Education; Labour Markets and Gender in Wales; a Welsh Public Life, Social Policy, Class and Inequality. Mae’r penodau’n archwilio rôl dynion a menywod yng Nghymru ac yn archwilio Cymru ei hun fel cenedl, economi, a chanolfan lywodraethu rhannol ddatganoledig, gan godi cwestiynau yn ymwneud â chydraddoldeb, polisi a dilyniant. Mae’r casgliad yn cynnwys ffotograffau, graffigwaith a barddoniaeth hefyd sy’n cynrychioli yn ogystal ag ymestyn dadleuon canolog y llyfr.