Perfformio'r Genedl

Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards

Golygydd(ion) Anwen Jones

Iaith: Cymraeg

Dosbarthiad(au): Welsh Interest, History

  • Ebrill 2017 · 240 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786830340
  • · eLyfr - pdf - 9781786830357
  • · eLyfr - epub - 9781786830364

Am y llyfr

Mae Perfformio’r Genedl yn gyfrol sy’n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i’r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i’r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o’i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol – sef astudiaeth o’r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o’r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae’r gyfrol yn canoli ar themâu amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau’r Orsedd, y drafodaeth o ddramâu cynnar y mudiad drama, a’r dogfennu ar weithgaredd cwmnïau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu’r amryw themâu yn ei waith a’u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o’r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.

Dyfyniadau

‘Dyma gyfrol arloesol ac amheuthun sy’n cynnig cyfres o ymatebion ysgolheigaidd i waith Hywel Teifi Edwards, ac sy’n ehangu’r drafodaeth ar astudiaethau theatr a pherfformiad yn Gymraeg. Tra bod gwaith Edwards yn wybyddus iawn ym maes y Gymraeg, dyma’r llyfr cyflawn cyntaf i hawlio pwysigrwydd ac arwyddocâd i’w waith i astudiaethau theatr a pherfformiad yn benodol.’

-Dr Lisa Lewis, Prifysgol De Cymru

Cynnwys

Rhagymadrodd Golygydd y Gyfrol - Anwen Jones
Ymlaen mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth y Theatr Gymraeg - Gareth Evans
Codi’r Llen, Ffotograffiaeth a Hanesyddiaeth ‘Annheyrngar’ Hywel Teifi Edwards - Roger Owen
Cadwraeth a Chynnydd yn y Mudiad Drama Cymraeg - Ioan Williams
Chwarae Rhan yng nghynhyrchiad Nghymru Fydd - M. Wynn Thomas
Perfformio cenedl y dychymyg: Iolo Morganwg a dechreuadau Gorsedd y Beirdd - Cathryn Charnell-White
Yr Eisteddfod yng ngweithiau Hywel Teifi Edwards: parth ymreolaethol dros dro? - Rowan O’Neill
Celfyddydau perfformiadol Cymru: Hanes newydd, Hanesyddiaeth newydd: Hywel Teifi Edwards a Phasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. - Anwen Jones
Mynegai

Cyflwyno'r Golygydd(ion)

Awdur(on): Anwen Jones

Mae Anwen Jones yn Ddarlithydd Astudiaethau Theatr yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth ac yn Gadeirydd Cangen y Brifysgol o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Darllen mwy