Rhoi Cymru’n Gyntaf

Syniadaeth Plaid Cymru: Cyfrol 1

Awdur(on) Richard Wyn Jones

Iaith: Cymraeg

  • Gorffennaf 2025 · 288 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781837723843
  • · eLyfr - pdf - 9781837723850
  • · eLyfr - epub - 9781837723867

Mae hon yn gyfrol wreiddiol, sy'n dyfnhau ein dealltwriaeth o brif arweinwyr Plaid Cymru a syniadaeth y mudiad yn gyffredinol. Mae'n trafod hanes y Blaid o'i chychwyn hyd at heddiw mewn ffordd drylwyr a manwl. Er yr ymdrinnir â syniadau astrus ar brydiau, mae'r gyfrol wedi ei hysgrifennu mewn dull apelgar.

'Awdurdodol, trwyadl, di-dderbyn-wyneb, angerddol – a chwbl afaelgar.'

Cynog Dafis

'Dyma gyfrol sy'n gyfuniad o ddadansoddi eglur ar syniadaeth cenedlaetholdeb yn gyffredinol a dehongli meistrolgar ar syniadaeth wleidyddol prif arweinwyr Plaid Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'n gynhwysfawr, yn awdurdodol, a chyffrous o bryfoclyd mewn mannau. Ni all y sawl a'i darlleno beidio ag ymateb yn fywiog iddi. Bydd yn arweiniad diogel i'r sawl sy'n anghyfarwydd â'r maes; bydd hefyd yn agoriad llygaid i sawl 'hen law'.'

Meredydd Evans

‘Cyfrol gampus sy’n byrlymu â syniadau arloesol a sylwadau treiddgar … ffres, cytbwys, gafaelgar.’

Robin Okey, Gwales

‘Bydd campwaith Richard Wyn Jones yn llawlyfr angenrheidiol i bawb sy’n ymwneud â chynllunio dyfodol y Blaid a chynllwynio dyfodol Cymru.’

Cynog Dafis, Barn

‘Cyfrol ysblennydd … yn wir arloesol ac yn torri cwys newydd yn hanesyddiaeth Cymru.’

J. Graham Jones, Y Cymro

‘This book is a masterly analysis of a party’s ideology’

Tom Ellis, Planet: The Welsh Internationalist

‘The first volume of his magisterial study of the ideology of Plaid Cymru.’

Meic Stephens, Cambria

'An original, occasionally thrilling, book which deepens our understanding of the main leaders of Plaid Cymru and the political thought of the party in general.'

Daniel G. Williams

Cyflwyniad
RHAN UN – CENEDLAETHOLDEB
1 Cenedlaetholdeb, Mudiadau Cenedlaethol a Chymru
Deall cenedlaetholdeb
Mudiadau cenedlaethol
Cymru – yng nghysgod y cyntaf-anedig
RHAN DAU – CENEDLAETHOLWYR
2 Cariad Angerddol at Wareiddiad Sefydlog :
Cyfnod Saunders Lewis
Cipio’r agenda
Egwyddorion cenedlaetholdeb
Gosod seiliau
Dal gafael
Tân siafins
3 Cymod â’i Theg Orffennol Hi: Cyfnod Gwynfor Evans
Fe’m gwrthodwyd . . .?
Yr etifeddiaeth: syniadau creiddiol ‘Saunders’
a ‘Gwynfor’
Polisïau sylfaenol: yr etifeddiaeth a’i hesblygiad
Aros Mae
Diwedd Prydeindod
4 Mwy na Dal Ati? Cyfnod y Ddau Ddafydd
Troi i’r Chwith: diwedd y ‘Drydedd Ffordd'
Radical Wales
Senedd ac Ewrop – eto
Wigley, Ceredigion a pharadocs y 1990au
Mynegai

Awdur(on): Richard Wyn Jones

Mae Richard Wyn Jones yn dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae'n Athro yng Ngwleidyddiaeth Cymru ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Darllen mwy

Cyhoeddiadau Perthnasol