Seals and Society

Medieval Wales, the Welsh Marches and their English Border Region

Awdur(on) Phillipp R. Schofield,John McEwan,Elizabeth New,Sue Johns

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Medieval, Welsh Interest, History

  • Mehefin 2016 · 352 tudalen ·234x156mm

  • · Clawr Caled - 9781783168712
  • · eLyfr - pdf - 9781783168729
  • · eLyfr - epub - 9781783168736
  • · Clawr Meddal - 9781783168750

Mae Seals and Society yn deillio o brosiect mawr sy’n ymchwilio i seliau a’u defnydd yng Nghymru’r Oesoedd Canol, y Gororau Cymreig a siroedd cyfagos yn Lloegr. Hon yw’r astudiaeth fawr gyntaf o seliau yng nghyd-destun un rhan o gymdeithas ganoloesol Gorllewin Ewrop, ac mae’r gyfrol yn cynnig persbectif newydd hefyd ar hanes Cymru ganoloesol a’i chyffiniau trwy fynd i’r afael ag amrywiaeth o themâu o ran y darlun y gall seliau ei gynnig i’r hanesydd. Er bod yr astudiaeth bresennol yn awgrymu gwahaniaethau rhanbarthol pwysig yn y defnydd o seliau yng Nghymru’r Oesoedd Canol, mae’n amlwg hefyd fod mwy o ddefnydd o seliau o ddiwedd y ddeuddegfed ganrif a bod y defnydd hwnnw’n eang yn y gymdeithas yng Nghymru, yn enwedig yn y rhannau hynny o Gymru sy’n ffinio â Lloegr, neu lle bu cyrchoedd cynnar gan y Saeson. Trwy gyfres o benodau, mae’r awduron yn archwilio’r ffyrdd y gall seliau daflu goleuni ar hanes cyfreithiol, gweinyddol, cymdeithasol ac economaidd y cyfnod yng Nghymru a rhanbarth y gororau. Mae seliau’n cynnig golwg unigryw ar ddewisiadau unigolion, dynion a menywod, o ran sut y cynrychiolant eu hunain i’r byd ehangach, ac mae’r mater yn cael ei archwilio’n drylwyr. Gyda bron i 100 o ddelweddau a gasglwyd gan y tîm prosiect, mae’r gyfrol o ddiddordeb mawr i’r rhai sy’n gweithio ar seliau, eu motiffau, eu defnydd a datblygiadau yn eu defnydd yn ystod anterth a diwedd yr Oesoedd Canol.

Introduction
Elizabeth A. New and Phillipp R. Schofield
Chapter 1: Seals in medieval Wales and its neighbouring counties: trends in motifs
John McEwan
Chapter 2. Seals: administration and law
Phillipp R. Schofield
Chapter 3. Seals and exchange
Phillipp R. Schofield
Chapter 4: Ecclesiastical Seals
Elizabeth A. New
Chapter 5: Seals and lordship
Susan M. Johns
Chapter 6: Seals, women and identity
Susan M. Johns
Chapter 7: Seals as expressions of identity
Elizabeth A. New
Conclusion
Elizabeth A. New and Phillipp R. Schofield
Appendix
Elizabeth A. New, John McEwan and Phillipp R. Schofield
Bibliography

Awdur(on): Phillipp R. Schofield

Mae Phillipp Schofield yn Athro mewn Hanes yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Darllen mwy