Seeking God's Kingdom

The Nonconformist Social Gospel in Wales 1906–1939

Awdur(on) Robert Pope

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Welsh Interest

Cyfres: Bangor History of Religion

  • Tachwedd 2015 · 224 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781783167821

Am y llyfr

Nodweddir y blynyddoedd rhwng 1906 a 1939 yn Ewrop gan bryder, a fyddai'n cael ei fynegi mewn termau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a chrefyddol, am yr amodau cymdeithasol a oedd wedi deillio o fwy na chanrif o ddiwydiannu. Mae Seeking God’s Kingdom yn edrych ar waith pedwar prif hyrwyddwr meddwl cymdeithasol Anghydffurfiaeth Gymreig: David Miall Edwards, Thomas Rees, Herbert Morgan a John Morgan Jones. Mae'n archwilio'r ffyrdd y dylanwadwyd arnynt gan syniadau deallusol ac athronyddol Ewropeaidd, gan ddangos sut y cafodd crefydd ei hail-ddehongli ganddynt i hybu gwelliant cymdeithasol, ac mae'r llyfr yn asesu cryfderau a gwendidau eu hymagweddau. Roeddynt yn rhyddfrydwyr diwinyddol nodweddiadol yn hytrach nag efengylwyr cymdeithasol yn benodol, ond tanseiliwyd eu casgliadau tua diwedd y cyfnod gan newidiadau a datblygiadau yn syniadaeth grefyddol Ewropeaidd y dydd. Mae hon yn astudiaeth gynhwysfawr a hynod ddiddorol o ymgais diwinyddiaeth ryddfrydol i ddod i delerau â gofynion a heriau cymdeithas ddiwydiannol.

Cynnwys

1.Preface to the Second Edition
2.Discovering Jerusalem
3.Wales and the Social Gospel
4.A Crisis of Faith
5.The Question of Context

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Robert Pope

Mae Dr Robert Pope yn Ddarllenydd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, Cymru, DU.

Darllen mwy

-
+

SÊL GWANWYN

Manteisiwch ar 70% oddi ar dros 300 o'n llyfrau!