Speeches and Articles 1968-2012
His Royal Highness the Prince of Wales
Awdur(on) David Cadman,Suheil Bushrui
Iaith: Saesneg
Dosbarthiad(au): Reference
- Chwefror 2015 · 1012 tudalen ·246x189mm
- · Clawr Caled - 9781783161959
Am y tro cyntaf erioed, mae areithiau Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar gael mewn casgliad dwy gyfrol, trwy gydweithrediad rhwng Prifysgol Cymru a Phrifysgol Maryland. Mae’r Athro Suheil Bushrui a’r Athro David Cadman wedi dwyn ynghyd ddeugain mlynedd a mwy o areithiau ac erthyglau gan Dywysog Cymru, wedi’u crynhoi dan benawdau sy’n cwmpasu ei brif ddiddordebau a gweithgareddau: yr amgylchedd naturiol, a fynegwyd trwy ffermio, coedwigaeth a physgodfeydd, ac yna fel newid yn yr hinsawdd; pensaernïaeth a’r amgylchedd adeiledig; meddyginiaeth ac iechyd integredig; cymdeithas, crefydd a thraddodiad; addysg, Ymddiriedolaeth y Tywysog a Busnes yn y Gymuned. Mae’r ddwy gyfrol, a fwriedir fel gwaith cyfeirio, yn dangos y Tywysog wrth i’w syniadau, ei wybodaeth a’i brofiadau ddatblygu, o’i araith gyntaf yn ugain oed ym 1968, i’w anerchiadau mwy diweddar yn 2012. Yr hyn sydd fwyaf nodedig, fodd bynnag, yw bod y neges gyffredinol wedi parhau’n gyson er bod arddull yr areithiau a’r erthyglau wedi newid dros y blynyddoedd – nid yn unig o ran diraddio amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd, ond hefyd materion yn ymwneud â gofal iechyd, ffurf drefol, ffermio organig a’r angen am fwy o barch a dealltwriaeth rhwng crefyddau – ac oll yn adrodd cyfrolau am ymrwymiad ac angerdd y Tywysog dros yr hyn y mae’n ei gredu, hyd yn oed yn ystod cyfnodau pan fu ei syniadau’n anghonfensiynol.