The Nations of Wales
1890-1914
Awdur(on) M. Wynn Thomas
Iaith: Saesneg
Dosbarthiad(au): Literary Criticism, Welsh and Celtic Studies
Cyfres: Writing Wales in English
- Mai 2016 · 384 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Caled - 9781783168378
- · Clawr Meddal - 9781783168385
- · eLyfr - pdf - 9781783168392
- · eLyfr - epub - 9781783168408
Mae rhai delweddau syml ac ystrydebol o Gymru yn taro tant yn syth gyda’r cyhoedd, yng Nghymru ei hun a thu hwnt i’w ffiniau. Am ran helaeth o’r ugeinfed ganrif, roedd y wlad yn cael ei gweld fel ‘Y Cymoedd’, gwlad o lowyr a chorau a chlybiau rygbi. Cydiodd y ddelwedd hon o ‘Gymru Broletaraidd’ (gyda’r wleidyddiaeth Sosialaidd sy’n cyd-fynd â hynny) yn y dychymyg poblogaidd, yn union fel y gwnaeth y ddelwedd o’r ‘Gymru Ymneilltuol’ - sef Cymru o gapeli a chymdeithas ddiflas Biwritanaidd - gydio yn nychymyg yr oes uchel Fictoraidd. Ond beth am Gymru’r degawdau tua diwedd oes Fictoria a’r cyfnod Edwardaidd? Pa ddelwedd o Gymru oedd yn boblogaidd ar yr adeg honno o newid cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol chwyldroadol? Mae’r llyfr hwn yn dadlau bod nifer o ddelweddau o Gymreictod oedd yn cystadlu â’i gilydd wedi’u cyflwyno yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae’n mynd ati i archwilio nifer o’r rhai mwyaf dylanwadol wrth iddynt ddatblygu’n destunau llenyddol.
1Emblematizing the nation
2Performing political identity
3O.M. Edwards: keeping track of the gwerin
4Literature and the political nation
5The Celtic
6T. Gwynn Jones: the once and future Wales
7Evan Roberts: The Ghost Dance of Welsh Nonconformity
8Arthur Machen: border disputes