Y Dychymyg Ôl-Fodern

Agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan

Awdur(on) Rhiannon Marks

Iaith: Cymraeg

  • Awst 2020 · 208 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786835901
  • · eLyfr - pdf - 9781786835918
  • · eLyfr - epub - 9781786835925

Am y llyfr

Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy’n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955–). Hon yw’r astudiaeth estynedig gyntaf o’i waith, a rhoddir sylw penodol i’r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 – cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i’r afael â phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ôl-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i’r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ôl-fodernaidd Gymraeg a’i harwyddocâd i’n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg â beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio’r ffin dybiedig rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw â thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.

Cynnwys

Diolchiadau
Rhagair
Rhagymadrodd
1.Dechrau’r Tymor ym Mhrifysgol Caerefydd
2.O’r Merddwr Dychrynus
3.Ar drywydd Hen Lwybr a Storїau Eraill
4.Cynnal Gweithdy: Saith Pechod Marwol
5.Gwthio Ffiniau yn Te Gyda’r Frenhines
6.Pwyllgora a Chystadlu
7.Jean Baudrillard a’r cyflwr ‘hyperreal’
8.Trafod Theori Cadi
9.Agweddau ar Tair Ochr y Geiniog
10.Storïau Ffeithiol
11.Dadadeiladu ‘Recsarseis Bŵc’ yn Cathod a Chŵn
12.Adnabod Awdur?
13.Ymweld ac ailymweld yn Kate Roberts a’r Ystlum a Dirgelion Eraill
14.Crefft y Stori Fer Heddiw
15.Di-ffinio 60
16.Hel Syniadau
Llyfryddiaeth Ddethol

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Rhiannon Marks

Mae Rhiannon Marks yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a dyma ei chyfrol gyntaf o feirniadaeth lenyddol.

Darllen mwy