Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes

Golygydd(ion) Rhiannon Heledd Williams,Rhianedd Jewell

Iaith: Cymraeg

  • Gorffennaf 2022 · 260 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786838803
  • · eLyfr - pdf - 9781786838810
  • · eLyfr - epub - 9781786838827

Mae’r byd gwaith yng Nghymru a’r Gymraeg fel disgyblaeth yn esblygu yn sgil y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol â sgiliau dwyieithog. Mae’r gyfrol ryngddisgyblaethol hon yn cyfuno lleisiau o’r byd academaidd a’r byd proffesiynol er mwyn archwilio i arwyddocâd a rôl y Gymraeg mewn gweithleoedd yn y Gymru gyfoes, ymateb y sectorau addysg a recriwtio i anghenion gweithwyr a sefydliadau, a rôl gwneuthurwyr polisi yn natblygiad yr iaith mewn cyd-destun proffesiynol. Sut mae gwella sgiliau dwyieithog gweithwyr? Er gwaethaf ewyllys da nifer o sefydliadau, a yw sgiliau Cymraeg eu gweithwyr yn cael eu cymhwyso? Beth yw buddiannau'r Gymraeg i weithleoedd, a beth yw’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth weithredu a chynnig eu gwasanaethau’n ddwyieithog? Beth yw rôl y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg yn y fath ddatblygiadau? Wrth ystyried a thrafod y cwestiynau hyn, gofynnir sut y mae polisïau, cyfreithiau a safonau iaith yn effeithio ar y gweithle cyfoes yng Nghymru.

 

Cynnwys
Diolchiadau
Rhestr o’r Ffigyrau
Cyflwyniad: Y Gymraeg a’r Gweithle Cyfoes
Rhianedd Jewell a Rhiannon Heledd Williams
Y Galw a’r Gwendidau
Sefydlu cwmni recriwtio dwyieithog
Alun Gruffudd
Gwasanaethau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Eleri Hughes-Jones
Pa mor effeithiol yw'r drefn yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Ifor Gruffydd
Cyfieithu Cyfiawn? Cyfieithu ar y pryd yn llysoedd Cymru
Rhianedd Jewell, Catrin Fflûr Huws a Hanna Binks
Y Datrysiadau a’r Cynlluniau
Meithrin Iaith: Y Gymraeg yn y Blynyddoedd Cynnar
Gwenllian Lansdown Davies ac Angharad Morgan
Cymraeg Gwaith
Helen Prosser
Y Mentrau Iaith a Chymraeg yn y Gweithle
Iwan Hywel
Mwy na hyfforddiant: cyfieithu a chyfrifoldeb
Mandi Morse
Y Polisïau a’r Safonau
Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru:
effaith safonau’r Gymraeg
Aled Roberts
Gweithredu Safonau’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: y dyddiau cynnar
Mari Elin Jones
Cynnig dros Ysgwydd? Y Gymraeg, y Prifysgolion a’r Gweithle Dwyieithog
R. Gwynedd Parry
Y Sŵn yn y Senedd: profiad a phryder Aelodau o’r Senedd am wneud cyfraniadau
trwy’r iaith Gymraeg
Delyth Jewell
Llyfryddiaeth
Y Cyfranwyr

Awdur(on): Rhiannon Heledd Williams

Mae Rhiannon Heledd Williams yn Reolwr Cydlynu’r Berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd yn Nhŷ’r Cyffredin. Bu cyn hyn yn arbenigwr gyda’r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig, yn gweithio ym maes craffu gwleidyddol, ac yn ddarlithydd yn y Gymraeg.

Darllen mwy

Awdur(on): Rhianedd Jewell

Ieithydd ac academydd yw Rhianedd Jewell. Mae ei chefndir ym maes ieithoedd modern, ac mae hi’n darlithio mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Darllen mwy