Y Llawes Goch a'r Faneg Wen

Y Corff Benywaidd a'i Symbolaeth mewn Ffuglen Gymraeg gan Fenywod

Awdur(on) Mair Rees

Iaith: Cymraeg

Cyfres: Gender Studies in Wales

  • Gorffennaf 2014 · 266 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781783161249
  • · eLyfr - pdf - 9781783161256
  • · eLyfr - epub - 9781783162222

Am y llyfr

Mae’r llyfr mentrus hwn yn bwrw golwg ar nofelau a straeon byrion Cymraeg gan fenywod ers 1948. Yn benodol, mae’n canolbwyntio ar sut mae’r awduron hyn wedi son am eu profiadau mwyaf dwys a phersonol (yn bennaf beichiogrwydd a’r mislif), yn eu gwaith. Ceir trafodaeth eang a deallus sydd yn rhychwantu sawl cenhedlaeth o awduron, o Dyddgu Owen a Kate Bosse-Griffiths yn y pumdegau hyd at awduron cyfoes megis Bethan Gwanas a Caryl Lewis. Mae’r gyfrol yn gwau ynghyd dadlau, deunydd a theori mewn ffordd sy’n hollol ffres ac annisgwyl yn y cyd-destun Cymraeg ac mae ei newydd-deb yn drawiadol. Mae'r llyfr yn defnyddio dros 150 o nofelau ac ystod eang o ffynonellau cyfoes eraill gan gynnwys hysbysebion, delweddaeth, chwedloniaeth a ffynonellau electronig i lywio dadl ffres, ddeniadol ac ar adegau, heriol.

Dyfyniadau

O’r diwedd: llyfr sy’n rhoi sylw i lenyddiaeth merched Cymru gyfan, nid gweithiau Kate Roberts yn unig. Mae mwy i’n merched ni na Kate, a braf yw gallu darllen cyfrol safonol a swmpus sy’n dathlu’r ‘corff benywaidd nwydus, aeddfed, ffrwythlon.’
-Bethan Gwanas

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Mair Rees

Cafodd Mair yrfa lwyddiannus fel therapydd celf cyn gwneud gradd a doethuriaeth yn y Gymraeg. Erbyn heddiw mae’n gweithio fel golygydd ac yn berchen ar siop lyfrau Cymraeg yng Nghaerleon.

Darllen mwy