Y Mudiad Drama yng Nhymru 1880-1940
Awdur(on) Ioan M. Williams
Iaith: Cymraeg
Cyfres: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
- Gorffennaf 2006 · 176 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9780708318324
Dyma'r astudiaeth academaidd gyntaf o un o fudiadau cymdeithasol pwysicaf y Cymry Gymraeg yn ystod y ddwy ganrif diweddaraf. Dengys yr awdur sut y taniwyd y mudiad hwn yn drawiadol o sydyn yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, o blith marwydos hen ddiwylliant Galfinaidd Cymru. Disgrifia sut y cyneuodd ddychymyg y werin bobl a'u harweinwyr ar draws ac ar led y wlad, gan wneud actorion o weinyddesau siop, a chyfarwyddwyr o weinidogion ac ysgolfeistri. Rhan o'r stori a geir yma yw hanes y cwmnïau mawr a bychain, y cystadlaethau a'r eisteddfodau a lanwyd y wlad, ac ymdrechion caredigion y theatr a ddymunai ei wneudyn gyfrwng i godi diwylliant y werin i lefel uwch. Rhan arall yw'r brwydrau mynych rhyngddynt hwy a gwir ffyddloniaid y mudiad, a fynnai mai fel mynegiant y werin Gymraeg ac arf ym mrwydr yr iaith y dylid eu hystyried. Dadl yr awdur yw, mai fel mudiad cymdeithasol y dylid pwyso a mesur y mudiad hwn a ddaliai ei gafael yn y cymunedau Cymraeg ar hyd y cyfnod rhwng 1880 a'r ail ryfel byd, er gwaethaf cynnydd y diwylliannau torfol Seisnig, a'r holl newidiadau cymdeithasol eraill a oedd wrthi'n tanseilio Cymreictod. Erbyn iddo ddarfod ym mhum degau'r ugeinfed ganrif - bron mor ddisymwth ag yr oedd wedi geni, drigain mlynedd ynghynt - yr oedd wedi cwblhau tasg holl bwysig i barhad y genedl. Gwasanaethai fel pont i gario'r genedl honno drosodd o hen fyd Calfinaidd Cymru i diroedd bras dyneiddiaeth faterol yr ugeinfed ganrif.