Ymryson Edmwnd Prys a William Cynwal

Awdur(on) Gruffydd Williams

Iaith: Cymraeg

  • Rhagfyr 1986 · 347 tudalen ·220x140mm

  • · Clawr Caled - 9780708309186

Yr hwyaf a'r pwysicaf o ddigon o'r holl ymrysonau barddol Cymraeg oedd yr un a fu rhwng Edmund Prys (1543/4-1623) a William Cynwal (m. 1587). Yn y gyfrol hon ceir testun o'r ymryson wedi ei olygu o lawysgrif Llanstephan 43, lle ceir yr ymryson yn llaw Prys, ynghyd â rhagymardrodd helaeth (yn cynnwys ymdriniaeth feirniadol), nodiadau a geirfa.

Yn mhedwar cywydd ar ddeg a deugain yr ymryson ceir golwg fanwl ar y gwahaniaethau mawr yng nghefndir y ddau fardd, y naill yn ŵr eglwysig a addysgwyd yn un o golegau Caer-grawnt a'r llall yn fardd professiynol a ymfalchïai yn ei radd farddol a'r addysg fardol draddodiadol a dderbyniasai dan law athro o bencerdd. Yng nghywyddau Prys fe gyfunir beirniadaeth ddyneiddiol ar y traddodiad barddol Cymreig ac ar feirdd proffesiynol yr oes â mynegiant grymus o ddelfryd llenyddol y dyneiddwyr a'u gobaith am lenyddiaeth Gymraeg o fath newydd. Rhydd Cynwal safbwynt y beirdd, prif gynheiliaid y traddodiad llenyddol. Mae'r cyfan yn dra gwerthfawr i'r sawl a fyn olrhain hynt y Dadeni yn ein gwlad, y gobeithion y rhoes fod iddynt a'r methiant a fu o ran eu gwireddu.

Awdur(on): Gruffydd Williams

Mae Aled Gruffydd Jones yn Athro Hanes Cymru Sir Jones Williams a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Darllen mwy