Ynysoedd Gobaith

Mentrau a Syniadau Iwtopaidd yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif

Awdur(on) Llion Wigley

Iaith: Cymraeg

  • Tachwedd 2025 · 240 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781837723195
  • · eLyfr - pdf - 9781837723201
  • · eLyfr - epub - 9781837723218

‘Ynysoedd Gobaith’ oedd diffiniad yr heddychwr mawr George M. Ll. Davies o’r mentrau a chymunedau iwtopaidd amrywiol y bu’n rhan ohonynt yng Nghymru’r ugeinfed ganrif. Bwriad y gyfrol hon, y gyntaf yn y Gymraeg ym maes astudiaethau iwtopaidd, yw amlygu a dadansoddi pwysigrwydd mentrau o’r fath, o’r mudiad gardd bentrefi yn y 1910au, i arbrofion cymdeithasol y Crynwyr yng nghymoedd de Cymru rhwng y rhyfeloedd byd, a chomiwnau’r hipis yn y 1970au. Canolbwyntir ar bedair brif thema – tai a chynllunio trefol; gwaith, hamdden a diweithdra; cyfiawnder troseddol a charchardai; heddwch a didreisedd – wrth ymdrin â’r mentrau hyn, er mwyn tanlinellu eu perthnasedd cyfoes fel ffynhonnell nid yn unig o obaith ond hefyd o syniadau a dulliau ymarferol i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac ecolegol ein hoes. 

‘Ar sail ymchwil eang, trafodir syniadau cymdeithasol a angorwyd ym mhrofiad pobl Cymru yn yr ugeinfed ganrif, cyn dangos sut y bu i unigolion a grwpiau ymdrechu i wireddu eu delfrydau. Dyma gyfrol sy’n goleuo a chyffroi – wrth ei darllen, teimlais falchder a gostyngeiddrwydd yr un pryd.’

E. Gwynn Matthews, Golygydd Astudiaethau Athronyddol (2012–20), a chyd‑lywydd Anrhydeddus yr Urdd Athronyddol

‘Gwnaeth yr awdur gymwynas fawr ȃ ni trwy ddwyn i gof yr arloeswyr a’r mudiadau hynny a aethant ati i droi eu breuddwydion am fyd gwell yn ffaith rhwng y ddau ryfel byd. Pan fo anghyfiawnder cymdeithasol yn rhemp a ninnau’n ddiymadferth yn wyneb y trais rhyngwladol cyfoes, mae’n dda cael ein hatgoffa am “y realiti amgen” sy’n cael ei ddarlunio yn y gyfrol wâr hon.’

D. Densil Morgan, Athro Emeritws mewn Diwinyddiaeth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Rhestr Luniau
Diolchiadau
Cyflwyniad: Seiliau Iwtopia
Pennod 1: Cynllunio Trefol, Gardd Bentrefi a’r ‘Welsh Town Planning and Housing Trust’
Pennod 2: Arbrawf Brynmawr a Mentrau eraill y Crynwyr yng Nghymru rhwng y Rhyfeloedd Byd
Pennod 3: ‘Trwy’r Drws ac Allan’: Cwestiynu’r Carchar o Safbwynt Cymreig
Pennod 4: Adeiladu’r Deyrnas: Heddychiaeth a’r Gymdeithas Amgen yng Nghymru
Casgliad: Iwtopia Nawr
Llyfryddiaeth

Awdur(on): Llion Wigley

Mae Llion Wigley yn hanesydd ac awdur. Cyhoeddwyd ei gyfrol ar hanes syniadau seicdreiddiol a dirfodol yng Nghymru, Yr Anywmwybod Cymreig, yn 2019, a’i hanes o ddegawdau cynnar Gwasg Prifysgol Cymru yn 2022.

Darllen mwy

Cyhoeddiadau Perthnasol

-
+

Sêl Blwyddyn Academaidd Newydd