Ysgrifau ar Theatr a Pherfformio
Golygydd(ion) Lisa Lewis,Anwen Jones
Iaith: Cymraeg
- Gorffennaf 2013 · 240 tudalen ·234x156mm
- · Clawr Meddal - 9780708326510
- · eLyfr - pdf - 9780708326572
Dyma gasgliad arloesol o ysgrifau ym maes Astudiaethau Theatr ac Astudiaethau Perfformio yn y Gymraeg, sy'n cynrychioli rhai o brif drafodaethau'r ddisgyblaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir cyfraniadau allweddol gan arbenigwyr yn eu maes, gan gynnwys trafodaeth ar y gofod theatraidd; ar gyfarwyddo ac ar ddamcaniaethau actio; dadansoddiad o ddatblygiad y theatr fodern yn Ewrop mewn perthynas a theori drama; ymdriniaeth ar y theatr ol-ddramataidd; disgwrs ar genedligrwydd a'r theatr genedlaethol; cyfraniad unigryw ar berfformio safle-benodol; archwiliad i berthynas yr archif a hunaniaeth; trafodaeth ar y berthynas rhwng corff a chymuned; a deialog rhwng dwy ddramodwraig. Mae'r gyfrol yn ganllaw i genhedlaeth o fyfyrwyr sy'n barod i ymgymryd a'r her o ddatblygu a chyfoethogi'r drafodaeth ysgolheigaidd ar ddrama, theatr a pherfformio yng Nghymru.
Cyflwyniad i'r Llyfr - Lisa Lewis ac Anwen Jones (Golygyddion) Ysgrifennu ar gyfer y theatr - Sera Moore Williams a Sian Summers Corff a Chymuned - Margaret Ames Agweddau ar Gyfarwyddo yn Ewrop - Roger Owen Agweddau ar Theatr Ewrop - Anwen Jones Agweddau ar y Gofod Theatraidd - Ioan Williams Theatr Ol-ddramataidd - Gareth Evans Ysgrifennu am Waith Ymarferol - Lisa Lewis Theatr i Gynulleidfaoedd Ifanc - Sera Moore Williams Agweddau ar Theatrau Cenedlaethol - Anwen Jones Theatr Safle Penodol - Mike Pearson Dadansoddi Cynhyrchiad - Lisa Lewis Damcaniaethau Actio - Lisa Lewis Yr Archif - Rowan O'Neill Perfformio Aml-gyfrwng - Jodie Allinson
Awdur(on): Lisa Lewis
Mae Lisa Lewis yn Ddarllenydd mewn Astudiaethau Theatr a Pherfformio ac yn Bennaeth yr Adran Ddrama yn yr Atrium, Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, Prifysgol De Cymru.Awdur(on): Anwen Jones
Mae Anwen Jones yn Ddarlithydd Astudiaethau Theatr yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth ac yn Gadeirydd Cangen y Brifysgol o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.