Rydym yn goruchwylio’r broses hanfodol o drawsnewid teipysgrif yn gynnyrch cyhoeddedig gorffenedig – boed yn fonograff academaidd wedi ei argraffu, llyfr celf lliw neu gyfeirlyfr, geiriadur, gwerslyfr, cylchgrawn electronig neu wedi ei argraffu neu e-lyfr.

Fel y prif bwynt cyswllt i awduron wrth i lyfr gael ei greu, rydym yn darparu gwasanaeth arbenigol yn fedrus ac effeithlon, sydd hefyd yn bersonol trwy bob cam o’r broses olygyddol a’r broses cynhyrchu – gan sicrhau bod y broses mor llyfn â phosib trwy ymdrechu i achub y blaen a datrys unrhyw broblemau ar hyd y ffordd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ar unrhyw adeg yn y broses gynhyrchu, neu os hoffech ddeall rhagor, rydym yma i’ch helpu trwy’r broses felly cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau glas i’ch helpu.