Darganfyddwch gyfleoedd newydd

i ddathlu’r tymor






Hel Mwyar Duon



Ar hyd tymhorau’r flwyddyn, mae Gathering Days yn atgoffa rhywun o’r ffyrdd y gallai’r weithred o gasglu gynnig ymdeimlad o bwrpas mewn cyfnodau o ansicrwydd.




Adrodd Straeon Ysbryd



Yn The Folklore of Wales: Ghosts, mae’r llenwyr gwerin enwog Delyth Badder a Mark Norman yn cyflwyno detholiad diddorol a chynhwysfawr o hanesion ysbrydion, gan oleuo themâu allweddol sy’n rhedeg drwyddynt, a rhoi cipolwg ar hanes a diwylliant rhanbarthau a chymunedau amrywiol Cymru.




Darganfod Hen Chwedlau


Mae’r gyfrol Enchanted Wales yn wahoddiad i deithio trwy straeon allweddol llenyddiaeth fytholegol Gymraeg, gan archwilio, nid yn unig destunau canoloesol ond wreiddiau hynafol hefyd, a hynny trwy gipluniau o gerfluniau, cerfiadau ac arteffactau eraill sydd hyd at ddwy fil o flynyddoedd oed.



Coginio pryd o fwyd tymhorol


Cyfrol sy’n archwilio mwy na dwy fil o flynyddoedd o hanes hir a chyfoethog bwydydd Cymreig – o wystrys i seidr, menyn hallt i gig oen. Er gwaethaf canrifoedd o ddiwydiant, mae traddodiadau hynafol wedi goroesi ymhlith ffermwyr, pobyddion, pysgotwyr, bragwyr a thyfwyr sy’n dwyn bwyd Cymreig yn ôl i’w gwreiddiau, gan arloesi hefyd ym maes bwydydd cynaladawy.



Nofio dan Leuad y Cynhaeaf a Lleuad Gwŷr Penllyn


Yn The Water Remedy mae Clare Gogerty yn cynnig canllaw i rai o’r llefydd gorau yn ymyl dŵr i’w mwynhau yng Nghymru ac yn y DU, gan ein hysbrydoli i weld y tu hwnt i’w ddefnydd yn y cartref er mwyn i ni elwa o’i bwerau ysbrydol ac adferol.



Dysgu am Lên Gwerin Amgen


Mae Where the Folk yn dilyn Russ Williams wrth iddo deithio yn Griff, ei gar Fiesta gwichlyd, gan chwilio am leoliadau sy’n gysylltiedig â chwedlau, llên gwerin a ffugchwedlau cyfoes Cymru.