Wrth droi ein golygon at etholiad hanesyddol Cymru ddechrau Mai, mae newidiadau mawr ar droed yn sgil cynyddu’r nifer o wleidyddion yn y Senedd. Cyn hynny, beth am fanteisio ar y cyfle i ddarllen am hanes amlweddog gwleidyddiaeth Cymru yn y llyfrau hyn? O hanes a syniadaeth y pleidiau i ddylanwad y cewri gwleidyddol, dyma restr ddarllen sy’n rhoi digon i bori drosto cyn bwrw pleidlais.
Trafodaeth ysgolheigaidd ar ddylanwad datganoli yng Nghymru ar bolisi cyhoeddus. Archwilir sut y bu i sefydliadau gwleidyddol arbenigol a safbwyntiau ideolegol – o ddechreuadau bregus – gael dylanwad nodedig yng Nghymru yn ogystal ag yn y DU ac yn ehangach.
Dyma gyfrol sy’n edrych ar gyfnod Emlyn Hooson fel arweinydd Plaid Ryddfrydol Cymru, a’r newidiadau a gyflwynwyd bryd hynny i droi’r blaid yn un wleidyddol ffederal a oedd yn canolbwyntio ar Gymru’n benodol.
Mae’r gyfrol hon yn ystyried hanfod Plaid Cymru o’i sefydlu ym 1925 hyd 1945 – ei hathroniaeth a’r polisïau a gofleidiodd, y dulliau a ddefnyddiodd, a’i chymeriad sefydliadol. Mae’n parhau yn glasur o astudiaeth ar seilwaith a degawdau cynnar y Blaid Genedlaethol.
Yn y gyfrol arloesol hon mae Richard Wyn Jones yn olrhain datblygiad syniadaethol Plaid Cymru o’i geni ym misoedd gaeaf 1924–5 hyd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn haf 1999. Trwy gyfrwng astudiaeth wreiddiol a heriol o gredoau gwleidyddol ei harweinwyr pwysicaf – Saunders Lewis, Gwynfor Evans a’r ddau Ddafydd, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd Wigley – cawn ddilyn ymdaith y Blaid o gyrion y llwyfan gwleidyddol hyd at drothwy’r Gymru ddatganoledig.
Astudiaeth sy’n cynnig ffordd newydd o astudio bywyd a gwaith y gwleidydd Llafur Prydeinig, Aneurin Bevan, sefydlydd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Edrychir arno fel meddyliwr gwleidyddol, gan archwilio’r syniadau craidd oedd yn sail i’w syniadaeth gwleidyddol.
Yn aml, ystyrir nad yw Cymru a’r Blaid Geidwadol yn gymhathol, ond dengys y llyfr hwn fod y blaid wedi ennill rhai llwyddiannau yng Nghymru, wedi cynllunio polisïau penodol ‘ar gyfer y genedl’, ac wedi sicrhau cefnogaeth gref mewn rhai ardaloedd.
Er ei fod yn etholaethol wan, roedd Plaid Gomiwnyddol Prydain a’i Bwyllgor Cymreig yn elfen cyson ym mywyd gwleidyddol Cymru yn ystod yr 20fed g, yn arbennig drwy ei ddylanwad ar yr undebau llafur. Cynigir astudiaeth drylwyr o agwedd y blaid at ddatganoli yng Nghymru, cenedlgarwch a hunaniaeth Gymreig, ac amlinellir polisi’r blaid mewn perthynas â Chymru yn ystod y ganrif honno.