Mae Mr Tony Ball yn gyn-athro a dirprwy ysgolion uwchradd yn ne Cymru, ac am ddegawd bu’n Uwch Is-lywydd (Adnoddau) yng Ngholeg Glan Hafren, Caerdydd. Roedd ganddo hefyd yrfa y tu allan i addysg fel Cyfarwyddwr Marchnata Clwb Criced Sir Forgannwg, a Chyfarwyddwr/Rheolwr Gweithgareddau CH Bailey. Wedi ei eni a’i addysgu yng Nghymru ac â gradd gwyddoniaeth o Brifysgol Cymru, Tony sy’n cadeirio Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru, sy’n fwrdd ymgynghorol i Gyngor Prifysgol Cymru.

Mae Mr Chris Burton-Brown yn gyfrifydd siartredig gyda 25 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddi, ac mae wedi dal nifer o swyddi fel cyfarwyddwr ariannol mewn amryw gwmnïau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwella gwybodaeth reoli i alluogi gwell penderfyniadau cyhoeddi, rheolaethau ariannol, caffaeliadau a diosgiadau, gweithrediadau systemau a mentora staff.

Mae’r Athro Helen Fulton yn aelod blaenllaw o’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol ym Mhrifysgol Bryste, ac yn ymchwilio ar hanes a gwleidyddiaeth llenyddiaeth ganoloesol, Astudiaethau Celtaidd, llenyddiaeth Arthuraidd a’r gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a Lloegr yn yr Oesoedd Canol. Mae hi wedi cyhoeddi ym meysydd llenyddiaeth Cymraeg a Gwyddeleg yn yr ugeinfed ganrif, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfrol yn trafod barddoniaeth wleidyddol Gymraeg ganoloesol.

Ms Katy Jordan MA yw Llyfrgellydd Cymorth Cadwrfeydd Prifysgol Caerfaddon. Hi hefyd yw Llyfrgellydd Anrhydeddus Cymdeithas Frenhinol Caerfaddon a Gorllewin Lloegr.

Mae Richard Owen yn gyn-bennaeth ar Adran Grantiau Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru.

Mae Clare Grist Taylor yn gyhoeddwr ac arweinydd gyda dros 30 mlynedd o brofiad dros amryw o sectorau cyhoeddi gwahanol – academaidd, gwerslyfr, proffesiynol a masnachol. Mae wedi cyhoeddi popeth o lyfrau masnachol i gynhyrchion cyfeirio ar-lein ar raddfa-eang, wedi’u gwerthu trwy’r fasnach, yn uniongyrchol i ddefnyddwyr a thanysgrifiad. Dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi gyda’r cyhoeddwr cyfnodolion, Pergamon Press, cyn mynd ymlaen i fod yn gyfarwyddwr golygyddol Ewropeaidd yn Prentice Hall, yn Rheolwr Gyfarwyddwr ICSA Publishing ac yn gyfarwyddwr busnes a gweithrediadau Profile Books.