Manylion Awdur

Rhian E. Jones

Cyflwyno'r Awdur

Magwyd Rhian E. Jones yn ne Cymru ac mae bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain, lle mae hi’n ysgrifennu ar hanes, gwleidyddiaeth, diwylliant poblogaidd, a’r cysylltiadau rhyngddynt. Ar ôl astudio yn Llundain a Rhydychen, bu’n gweithio ym maes manwerthu wrth weithio i sefydlu ei hun fel newyddiadurwr, hanesydd ac awdur ffuglen a ffeithiol. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer gwahanol gyhoeddiadau gan gynnwys The Guardian, Salon, Los Angeles Review of Books, New Welsh Review a’r Morning Star. Cafodd ei llyfr cyntaf: Clampdown: Pop-Cultural Wars on Class and Gender (Zero Books, 2013), beirniadaeth o ddiwylliant a gwleidyddiaeth boblogaidd Prydain o’r 1990au ymlaen, ei gynnwys yn Llyfrau Cerddoriaeth Gorau 2013 y Guardian. Mae hi’n ysgrifennu’r blog Velvet Coalmine yn www.rhianejones.com.

Cyhoeddiad(au) (Awdur)

-
+

Gostyngiad Astudiaethau Canoloesol IMC Leeds

Mynnwch hyd at 50% o ostyngiad oddi ar ein cyhoeddiadau Astudiaethau Canoloesol! Yn syml iawn, pwyswch 'Gostyngiad' er mwyn pori drwy'r llyfrau niferus sy'n rhan o'r cynnig arbennig hwn.