Administrative Law and The Administrative Court in Wales
Awdur(on) David Gardner
Iaith: Saesneg
Dosbarthiad(au): Social Policy and Law, Welsh Interest
Cyfres: The Public Law of Wales
- Medi 2016 · 400 tudalen ·234x156mm
- · Clawr Caled - 9781783169320
- · eLyfr - pdf - 9781783169337
- · eLyfr - epub - 9781783169344
Am y llyfr
Wrth i ni symud ymlaen drwy’r unfed ganrif ar hugain, mae Cymru’n datblygu hunaniaeth newydd a mwy o ymreolaeth ddeddfwriaethol. Mae gan y Ar gychwyn yr unfed ganrif ar hugain, mae hunaniaeth newydd a chynnydd yn ei hymreolaeth ddeddfwriaethol yn datblygu yng Nghymru. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru ill dau y gallu i greu cyfreithiau’n benodol ar gyfer Cymru, tra bod trefn farnwrol y wlad yn meddu ar ymreolaeth gynyddol o ran ei gallu i alw cyrff cyhoeddus Cymru i gyfrif. Mae’r llyfr Administrative Law and The Administrative Court in Wales yn manylu ar yr egwyddorion sy’n ymwneud â herio gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu awdurdodau Cymru drwy’r Llys Gweinyddol, a hefyd yn rhoi ystyriaeth i’r darpariaethau cyfreithiol y tu ôl i’r Llys Gweinyddol, egwyddorion cyfraith weinyddol, a’r gweithdrefnau sy’n berthnasol i gynnal adolygiadau barnwrol. Cyhoeddwyd deunydd helaeth ar gyfraith gyhoeddus a gweinyddol, ond nid oes dim cyn hyn wedi’i ysgrifennu o safbwynt cwbl Gymreig – dyna a wna’r llyfr hwn wrth archwilio gallu pobl Cymru i herio gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu eu hawdurdodau drwy’r Llys Gweinyddol yng Nghymru.