Castell Caerfyrddin

Olrhain Hanes Llywodraethiant

Awdur(on) Neil Ludlow

Iaith: Cymraeg

  • Mehefin 2014 · 475 tudalen ·246x189mm

  • · Clawr Caled - 9781783160464
  • · eLyfr - pdf - 9781783160471
  • · eLyfr - epub - 9781783162048

Am y llyfr

Castell Caerfyrddin oedd un o'r cestyll mwyaf yng Nghymru'r Oesoedd Canol, yn ogytal ag un o'r pwysicaf oherwydd ei swyddogaeth fel canolfan llywodraeth ac fel eiddo'r Goron mewn ardal o diroedd Cymreig ac arglwyddiaethau'r Mers. Dymchwelwyd y rhan fwyaf o'r castell yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, cyn ei ailddatblygu yn gyntaf fel carchar ac yna'n bencadlys i'r awdurdod lleol. Eto, mae'r adfeilion a'u lleoliad yn hynod drawiadol. Rhwng 1993 a 2006, bwriwyd ati gyda rhaglen sylweddol o waith archeolegol ac ymchwil, gwaith a ddisgrifir mewn manylder yn y llyfr hwn. Archwilir hanes y castell yn ogystal, ynghyd a'i effaith ar yr ardal ac ar Gymru gyfan. Cawn ddarlun o swyddogion a thrigolion y castell, eu gweithgareddau, a'u hymadwaith gyda'r amgylchfyd. Disgrifir y cloddfeydd yn y castell a'r creiriau a ganfyddwyd, ynghyd a'r potensial archeolegol sy'n parhau. Mae'r llyfr hwn yn gosod Castell Caerfyrddin ym myw hanes Cymru'r Oesoedd Canol, gan roi iddo'i briod le ym maes ehangach astudiaethau cestyll a hanes pensaerniol, i gyflwyno astudiaeth sy'n gyfraniad sylweddol i hanes un o drefi mawr Cymru.

Dyfyniadau

Castell Caerfyrddin oedd canolbwynt awdurdod Coron Lloegr yn ne-orllewin Cymru o’r amserau Normanaidd cynnar, gyda’r dref gerllaw yn tyfu mewn pwysigrwydd yn ystod y Canol Oesoedd. Er bod y ffynonellau yn gyfoethog, ychydig iawn a wyddid neu a ddeellid am y castell ei hun tan yn ddiweddar, ond, fel mae’r llyfr yn dangos, mae gwaith yr awdur a’r cyfranwyr wedi trawsffurfio ein dealltwriaeth, ac mae’r gyfrol yn gwneud cyfraniad pwysig iawn at hanes canol oesol a diweddarach Cymru.
John Kenyon, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Trwy’r defnydd o dystiolaeth hanesyddol, archeolegol a’r dystiolaeth adeiledig, mae Neil Ludlow wedi dod â Chastell Caerfyrddin yn ôl i fywyd. Mae’r testun clir a’r darluniau ail-lunio arbennig yn dangos ei fod yn un o’r cestyll pwysicaf yng Nghymru.
Richard Turner, Arolygydd Henebion, Cadw

Cynnwys

1 Cyflwyniad: 'a certain good donjon' Arolwg cryno Hanesyddiaeth Lleoliad, sefyllfa ac anheddiad cynnar Disgrifiad rhagarweiniol 2 Castell Caerfyrddin a'i le yng Nghymru'r Oesoedd Canol Gwreiddiau Gwleidyddiaeth a rhyfel Canolfan llywodraeth Y castell yn ei amgylchedd [**Siecio'r fersiwn terfynol yn y bennod] 3 Yr adfeilion gweledol Y mwnt a'r gorthwr gwag Y llenfuriau a'r tyrau Y Porthdy Mawr a'r bont Tu mewn y castell Wal ac iard y carchar, a Hen Orsaf yr Heddlu 4 Ail-lunio'r castell Cyfnod I: y castell coed, 1106 - 80 Cyfnod 2: y gorthwr gwag, 1181 - 1222? Cyfnod 3: yr amddiffynfeydd o waith maen, 1223 - 40 Cyfnod 4: adeiladau ar gyfer y brenin, 1241 - 78 Cyfnod 5: mwy o lety, 1279 - 1300 Cyfnod 6: adeiladau ar gyfer llywodraeth, 1301 - 1408 Cyfnod 7: difrod ac ailadeiladu, 1409 - tua 1550 Trefniadaeth gymdeithasol: y castell fel preswylfan 5 Ymrannu, dymchwel a datblygu: y castell ol-ganoloesol Dirywiad: diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg/canol yr ail ganrif ar bymtheg Dinistrio: o'r Rhyfel Cartref i'r Adferiad, 1642 - 60 Diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif Carchar newydd y Sir, 1789 - 1868 Y carchar ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a Neuadd y Sir, 1868 - 1993 6 Pottery and other finds Pottery and glass (Paul Courtney and Dee Brennan) Organics and metalwork from medieval deposits (Mark Redknap) Small finds from post-medieval deposits (Mark Redknap, Dee Brennan and Edward Besly) 7 Epilogue: the castle rediscovered The castle in the present The castle in the future

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Neil Ludlow

Mae Neil Ludlow yn archeolegydd ymgynghorol ac yn gyn Reolwr Prosiect gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Gweithiodd yng ngorllewin Cymru am bum mlynedd ar hugain, ac mae ganddo wybodaeth gynhwysfawr o hanes ac adeiladau canoloesol.

Darllen mwy