Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

Awdur(on) Noel A. Davies,T. Hefin Jones

Iaith: Cymraeg

  • Mai 2017 · 144 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786831262
  • · eLyfr - pdf - 9781786831279
  • · eLyfr - epub - 9781786831286

Am y llyfr

Dyma’r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o’r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i’r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau’r bydysawd? A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau’r Credo, ‘Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear’? Ac a fedrant goleddu’r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy’r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu’r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am fiodechnoleg ac ecoleg? Mae deiliaid ‘yr atheistiaeth newydd’ yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl – cred sicr awduron y gyfrol hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o’r naill yn cyfoethogi’n dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma i’n galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy’n tarddu yn ei fwriad a’i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy’n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw.

Dyfyniadau

‘Dyma gyfrol eglur, amserol a deallus a fydd o gymorth i’n goleuo yn y pwnc dan sylw. Pan fo pegynnu enbyd yn digwydd rhwng credinwyr ac anghredinwyr, ac yn aml iawn rhwng credinwyr a’i gilydd ar union natur y berthynas rhwng crefydd a gwyddoniaeth, mae’n dda cael arweiniad cadarn yn y maes. Mae pob pennod yn academaidd gyfrifol, yn ffrwyth hir fyfyrdod ar y mater mewn llaw, ac yn cynnig maeth i’r meddwl a’r ysbryd. Amheuthun yw cael cyfrol fel hon yn Gymraeg.’

-Yr Athro Emeritws D. Densil Morgan, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

‘Nod y gyfrol hon yw trafod y berthynas honedig rhwng crefydd a gwyddoniaeth, ac mae’n llwyddo yn ei bwriad trwy gyfuno crebwyll diwinyddol amlwg â darganfyddiadau gwyddonol y ddau ganrif a hanner diwethaf. Dylai’r drafodaeth a geir ynddi gyfrannu’n fawr at un o ddadleuon pwysicaf ein hoes – a hynny, wrth gwrs, yn y Gymraeg.’

-Dr Robert Pope, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Cynnwys

Rhagarweiniad
Pennod 1: Edrych yn ôl: rhai trobwyntiau hanesyddol
Pennod 2: Gwyddoniaeth a diwinyddiaeth: rhai seiliau athronyddol
Pennod 3: Y Glec Fawr, y cread a Duw
Pennod 4: Siawns, cynllun ac anghenraid
Pennod 5: Darwin, DNA a Duw
Pennod 6: Biotechnoleg a datblygiadau meddygol
Pennod 7: Y natur ddynol
Pennod 8: Glendid maith y cread: Cristnogion a’r amgylchedd
Pennod 9: Credwn yn Nuw
Llyfryddiaeth Ddethol
Cyfeiriadaeth

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Noel A. Davies

Mae Noel A. Davies yn weinidog a diwinydd sydd bellach wedi ymddeol.

Darllen mwy

Awdur(on): T. Hefin Jones

Mae T. Hefin Jones yn wyddonydd yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Ddeon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Darllen mwy